Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
1 Cronicl 1-3

Adda, Seth, Enos, Cenan, Mahalaleel, Jered, Enoch, Methusela, Lamech, Noa, Sem, Cham, a Jaffeth.

Meibion Jaffeth; Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. A meibion Gomer; Aschenas, a Riffath, a Thogarma. A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim.

Meibion Cham; Cus, a Misraim, Put, a Chanaan. A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabtecha: a Seba, a Dedan, meibion Raama. 10 A Chus a genhedlodd Nimrod: hwn a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 11 A Misraim a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftuhim, 12 Pathrusim hefyd, a Chasluhim, (y rhai y daeth y Philistiaid allan ohonynt,) a Chafftorim. 13 A Chanaan a genhedlodd Sidon ei gyntaf‐anedig, a Heth, 14 Y Jebusiad hefyd, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 15 A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 16 A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad.

17 Meibion Sem; Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram, ac Us, a Hul, a Gether, a Mesech. 18 Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Eber. 19 Ac i Eber y ganwyd dau o feibion: enw y naill ydoedd Peleg; oherwydd mai yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear: ac enw ei frawd oedd Joctan. 20 A Joctan a genhedlodd Almodad, a Seleff, a Hasarmafeth, a Jera, 21 Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 22 Ac Ebal, ac Abimael, a Seba, 23 Offir hefyd, a Hafila, a Jobab. Y rhai hyn oll oedd feibion Joctan.

24 Sem, Arffacsad, Sela, 25 Eber, Peleg, Reu, 26 Serug, Nachor, Tera, 27 Abram, hwnnw yw Abraham. 28 Meibion Abraham; Isaac, ac Ismael.

29 Dyma eu cenedlaethau hwynt: cyntaf‐anedig Ismael oedd Nebaioth, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam, 30 Misma, a Duma, Massa, Hadad, a Thema, 31 Jetur, Naffis, a Chedema. Dyma feibion Ismael.

32 A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan. 33 A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura. 34 Ac Abraham a genhedlodd Isaac. Meibion Isaac; Esau, ac Israel.

35 Meibion Esau; Eliffas, Reuel, a Jëus, a Jaalam, a Chora. 36 Meibion Eliffas; Teman, ac Omar, Seffi, a Gatam, Cenas, a Thimna, ac Amalec. 37 Meibion Reuel; Nahath, Sera, Samma, a Missa. 38 A meibion Seir; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana, a Dison, ac Eser, a Disan. 39 A meibion Lotan; Hori, a Homam: a chwaer Lotan oedd Timna. 40 Meibion Sobal; Alïan, a Manahath, ac Ebal, Seffi, ac Onam. A meibion Sibeon; Aia, ac Ana. 41 Meibion Ana; Dison. A meibion Dison; Amram, ac Esban, ac Ithran, a Cheran. 42 Meibion Eser; Bilhan, a Safan, a Jacan. Meibion Dison; Us, ac Aran.

43 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yn nhir Edom, cyn teyrnasu o frenin ar feibion Israel; Bela mab Beor: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 44 A phan fu farw Bela, y teyrnasodd yn ei le ef Jobab mab Sera o Bosra. 45 A phan fu farw Jobab, Husam o wlad y Temaniaid a deyrnasodd yn ei le ef. 46 A phan fu farw Husam, yn ei le ef y teyrnasodd Hadad mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab: ac enw ei ddinas ef ydoedd Afith. 47 A phan fu farw Hadad, y teyrnasodd yn ei le ef Samla o Masreca. 48 A phan fu farw Samla, Saul o Rehoboth wrth yr afon a deyrnasodd yn ei le ef. 49 A phan fu farw Saul, y teyrnasodd yn ei le ef Baalhanan mab Achbor. 50 A bu farw Baalhanan, a theyrnasodd yn ei le ef Hadad: ac enw ei ddinas ef oedd Pai; ac enw ei wraig ef Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.

51 A bu farw Hadad. A dugiaid Edom oedd; dug Timna, dug Alia, dug Jetheth, 52 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon, 53 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar, 54 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma ddugiaid Edom.

Dyma feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon, Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.

Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf‐anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd, ac efe a’i lladdodd ef. A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump. Meibion Phares; Hesron a Hamul. A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump. A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd‐beth. A meibion Ethan; Asareia. A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai. 10 A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda; 11 A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas; 12 A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;

13 A Jesse a genhedlodd ei gyntaf‐anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd, 14 Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed, 15 Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed: 16 A’u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri. 17 Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.

18 A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon. 19 A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur. 20 A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.

21 Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub. 22 A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead. 23 Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead. 24 Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.

25 A meibion Jerahmeel cyntaf‐anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa. 26 A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam. 27 A meibion Ram cyntaf‐anedig Jerahmeel oedd, Maas, a Jamin, ac Ecer. 28 A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur. 29 Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid. 30 A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi‐blant. 31 A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai. 32 A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi‐blant. 33 A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.

34 Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a’i enw Jarha. 35 A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Attai. 36 Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad. 37 A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed, 38 Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia, 39 Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa, 40 Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum, 41 A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.

42 Hefyd meibion Caleb brawd Jerahmeel oedd, Mesa ei gyntaf‐anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron. 43 A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema. 44 A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai. 45 A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur. 46 Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases. 47 A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff. 48 Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana. 49 Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.

50 Y rhai hyn oedd feibion Caleb mab Hur, cyntaf‐anedig Effrata; Sobal tad Ciriath‐jearim, 51 Salma tad Bethlehem, Hareff tad Beth‐gader. 52 A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath‐jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid, 53 A theuluoedd Ciriath‐jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid, a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid. 54 Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid. 55 A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethant o Hemath, tad tylwyth Rechab.

Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf‐anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles: Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith: Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig. Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel: Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet, A Noga, a Neffeg, a Jaffia, Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

10 A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau; 11 Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau; 12 Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau; 13 Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau; 14 Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau. 15 A meibion Joseia; y cyntaf‐anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum. 16 A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.

17 A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau, 18 Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia. 19 A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt: 20 A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab‐hesed, pump. 21 A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia. 22 A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech. 23 A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri. 24 A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

Ioan 5:25-47

25 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y mae’r awr yn dyfod, ac yn awr y mae, pan glywo’r meirw lef Mab Duw: a’r rhai a glywant, a fyddant byw. 26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i’r Mab hefyd fod ganddo fywyd ynddo ei hun; 27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, oherwydd ei fod yn Fab dyn. 28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae’r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a’r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef: 29 A hwy a ddeuant allan: y rhai a wnaethant dda, i atgyfodiad bywyd; ond y rhai a wnaethant ddrwg, i atgyfodiad barn. 30 Ni allaf fi wneuthur dim ohonof fy hunan; fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a’m barn i sydd gyfiawn; canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 31 Os ydwyf fi yn tystiolaethu amdanaf fy hunan, nid yw fy nhystiolaeth i wir.

32 Arall sydd yn tystiolaethu amdanaf fi; ac mi a wn mai gwir yw’r dystiolaeth y mae efe yn ei thystiolaethu amdanaf fi. 33 Chwychwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i’r gwirionedd. 34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddyn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi. 35 Efe oedd gannwyll yn llosgi, ac yn goleuo; a chwithau oeddech ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef.

36 Ond y mae gennyf fi dystiolaeth fwy nag Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi i’w gorffen, y gweithredoedd hynny y rhai yr ydwyf fi yn eu gwneuthur, sydd yn tystiolaethu amdanaf fi, mai’r Tad a’m hanfonodd i. 37 A’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, efe a dystiolaethodd amdanaf fi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef un amser, ac ni welsoch ei wedd ef. 38 Ac nid oes gennych chwi mo’i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe, hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.

39 Chwiliwch yr ysgrythurau: canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt‐hwy yw’r rhai sydd yn tystiolaethu amdanaf fi. 40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd. 41 Nid ydwyf fi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion. 42 Ond myfi a’ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch. 43 Myfi a ddeuthum yn enw fy Nhad, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch. 44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan eich gilydd, ac heb geisio’r gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn unig? 45 Na thybiwch y cyhuddaf fi chwi wrth y Tad: y mae a’ch cyhudda chwi, sef Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio. 46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minnau: oblegid amdanaf fi yr ysgrifennodd efe. 47 Ond os chwi ni chredwch i’w ysgrifeniadau ef, pa fodd y credwch i’m geiriau i?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.