Old/New Testament
13 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. 2 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.
3 A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt. 4 A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd, a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a’u gorthrymai hwynt. 5 (A’r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt. 6 Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddynt hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.) 7 Ac ni adawodd efe i Joahas o’r bobl, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a’u dinistriasai hwynt, ac a’u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.
8 A’r rhan arall o hanes Joahas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 9 A Joahas a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn Samaria, a Joas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
10 Yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Joas brenin Jwda, y teyrnasodd Joas mab Joahas ar Israel yn Samaria: un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe. 11 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; eithr efe a rodiodd ynddynt. 12 A’r rhan arall o hanes Joas, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’i gadernid, trwy yr hwn yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 13 A Joas a hunodd gyda’i dadau, a Jeroboam a eisteddodd ar ei deyrngadair ef: a Joas a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel.
14 Ac yr oedd Eliseus yn glaf o’r clefyd y bu efe farw ohono: a Joas brenin Israel a ddaeth i waered ato ef, ac a wylodd ar ei wyneb ef, ac a ddywedodd, O fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a’i farchogion. 15 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, Cymer fwa a saethau. Ac efe a gymerth fwa a saethau. 16 Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Dod dy law ar y bwa. Ac efe a roddodd ei law: ac Eliseus a osododd ei ddwylo ar ddwylo’r brenin. 17 Ac efe a ddywedodd, Agor y ffenestr tua’r dwyrain. Yntau a’i hagorodd. Yna y dywedodd Eliseus, Saetha. Ac efe a saethodd. Dywedodd yntau, Saeth ymwared yr Arglwydd, a saeth ymwared rhag Syria; a thi a drewi y Syriaid yn Affec, nes eu difa hwynt. 18 Hefyd efe a ddywedodd, Cymer y saethau. Ac efe a’u cymerodd. Ac efe a ddywedodd wrth frenin Israel, Taro y ddaear. Ac efe a drawodd dair gwaith, ac a beidiodd. 19 A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria.
20 Ac Eliseus a fu farw, a hwy a’i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i’r wlad y flwyddyn honno. 21 A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.
22 A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas. 23 A’r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg hyd yn hyn. 24 Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. 25 A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a’i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.
14 Yn yr ail flwyddyn i Joas mab Joahas brenin Israel y teyrnasodd Amaseia mab Joas brenin Jwda. 2 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan aeth yn frenin, a naw mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Joadan o Jerwsalem. 3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, eto nid fel Dafydd ei dad; ond efe a wnaeth yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joas ei dad ef. 4 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
5 A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef. 6 Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun. 7 Efe a drawodd o’r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.
8 Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd. 9 A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i’m mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn. 10 Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a’th falchïodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i’th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi? 11 Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda. 12 A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. 13 A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd. 14 Ac efe a gymerth yr holl aur a’r arian, a’r holl lestri a’r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.
15 A’r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a’i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 16 A Joas a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
17 Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd. 18 A’r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 19 Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a’i lladdasant ef yno. 20 A hwy a’i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda’i dadau, yn ninas Dafydd.
21 A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 22 Efe a adeiladodd Elath, ac a’i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau.
23 Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe. 24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 25 Efe a ddug adref derfyn Israel o’r lle yr eir i mewn i Hamath hyd fôr y rhos, yn ôl gair Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Jona mab Amittai y proffwyd, yr hwn oedd o Gath‐Heffer. 26 Canys yr Arglwydd a welodd gystudd Israel yn flin iawn: canys nid oedd neb gwarchaeëdig, na neb wedi ei adael, na chynorthwyydd i Israel. 27 Ac ni lefarasai yr Arglwydd y dileai efe enw Israel oddi tan y nefoedd: ond efe a’u gwaredodd hwynt trwy law Jeroboam mab Joas.
28 A’r rhan arall o hanes Jeroboam, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe, a’i gadernid ef, y modd y rhyfelodd efe, a’r modd y dug efe adref Damascus a Hamath, i Jwda yn Israel, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 29 A Jeroboam a hunodd gyda’i dadau, sef gyda brenhinoedd Israel; a Sachareia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2 A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. 2 A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. 3 A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. 4 Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto. 5 Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. 6 Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri. 7 Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. 8 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. 9 A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, 10 Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. 11 Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; 14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: 16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. 17 A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.
18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? 21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23 Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; 25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.