Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Josua 10-12

10 A Phan glybu Adonisedec brenin Jerwsalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnaethai efe i Jericho ac i’w brenin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenin,) a heddychu o drigolion Gibeon ag Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt: Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac oherwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn. Am hynny Adonisedec brenin Jerwsalem a anfonodd at Hoham brenin Hebron, ac at Piram brenin Jarmuth, ac at Jaffia brenin Lachis, ac at Debir brenin Eglon, gan ddywedyd. Deuwch i fyny ataf fi, a chynorthwywch fi, fel y trawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel. Am hynny pum brenin yr Amoriaid a ymgynullasant, ac a ddaethant i fyny, sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon, hwynt‐hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thyn ymaith dy ddwylo oddi wrth dy weision: tyred i fyny yn fuan atom ni, achub ni hefyd, a chynorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd‐dir, a ymgynullasant i’n herbyn ni. Felly Josua a esgynnodd o Gilgal, efe a’r holl bobl o ryfel gydag ef, a’r holl gedyrn nerthol.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb ohonynt yn dy wyneb di. Josua gan hynny a ddaeth yn ddiatreg atynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fyny o Gilgal. 10 A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u trawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fyny i Beth‐horon, ac a’u trawodd hwynt hyd Aseca, ac hyd Macceda. 11 A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy yng ngoriwaered Beth‐horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Aseca; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.

12 Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd yng ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon. 13 A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddial ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd yng nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan. 14 Ac ni bu y fath ddiwrnod â hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ôl ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll i Gilgal. 16 Ond y pum brenin hynny a ffoesant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Macceda. 17 A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pum brenin a gafwyd ynghudd mewn ogof ym Macceda. 18 A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt: 19 Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ôl eich gelynion, a threwch y rhai olaf ohonynt; na adewch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi. 20 A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid ohonynt a aethant i’r dinasoedd caerog. 21 A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Macceda mewn heddwch, heb symud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel. 22 A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pum brenin hynny ataf fi o’r ogof. 23 A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pum brenin ato ef o’r ogof; sef brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon. 24 A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gydag ef, Nesewch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt. 25 A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn. 26 Ac wedi hyn Josua a’u trawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bum pren: a buant ynghrog ar y prennau hyd yr hwyr. 27 Ac ym mhryd machludo haul, y gorchmynnodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion yng ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorff y dydd hwn.

28 Josua hefyd a enillodd Macceda y dwthwn hwnnw, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenin hi, hwynt‐hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenin Macceda, fel y gwnaethai i frenin Jericho.

29 Yna yr aeth Josua a holl Israel gydag ef o Macceda i Libna, ac a ymladdodd yn erbyn Libna. 30 A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’i brenin, yn llaw Israel; ac yntau a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenin hi fel y gwnaethai i frenin Jericho.

31 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Libna i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn. 32 A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i henillodd hi yr ail ddydd, ac a’i trawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Libna.

33 Yna Horam brenin Geser a ddaeth i fyny i gynorthwyo Lachis: a Josua a’i trawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un yng ngweddill.

34 A Josua a dramwyodd, a holl Israel gydag ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn. 35 A hwy a’i henillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

36 A Josua a esgynnodd, a holl Israel gydag ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn. 37 A hwy a’i henillasant hi, ac a’i trawsant hi â min y cleddyf, a’i brenin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

38 A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gydag ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn. 39 Ac efe a’i henillodd hi, ei brenin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un yng ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenin; megis y gwnaethai efe i Libna, ac i’w brenin.

40 Felly y trawodd Josua yr holl fynydd‐dir, a’r deau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un yng ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel. 41 A Josua a’u trawodd hwynt o Cades‐Barnea, hyd Gasa, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon. 42 Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a enillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel. 43 Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gydag ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

11 A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff, Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd‐dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin; At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd‐dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe. A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn. A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân. Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt. A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth‐maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill. A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.

10 A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny. 11 Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân. 12 A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a’u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr Arglwydd. 13 Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua. 14 A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

15 Fel y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd i Moses. 16 Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn; 17 O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth. 18 Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer. 19 Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel. 20 Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

21 A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd‐dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd. 22 Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt. 23 Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

12 Dyma frenhinoedd y wlad, y rhai a drawodd meibion Israel, ac a feddianasant eu gwlad hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua chodiad yr haul; o afon Arnon hyd fynydd Hermon, a’r holl wastadedd tua’r dwyrain: Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac yn arglwyddiaethu o Aroer, yr hon sydd ar fin yr afon Arnon, ac o ganol yr afon, ac o hanner Gilead hyd yr afon Jabboc, ym mro meibion Ammon; Ac o’r gwastadedd hyd fôr Cinneroth o du y dwyrain, ac hyd fôr y gwastadedd, sef y môr heli, o du y dwyrain, tua Beth‐jesimoth; ac o du y deau, dan Asdoth‐Pisga: A goror Og brenin Basan, yr hwn oedd o weddill y cewri, ac oedd yn trigo yn Astaroth ac yn Edrei; Ac efe oedd yn arglwyddiaethu ym mynydd Hermon, ac yn Salcha, ac yn holl Basan, hyd derfyn y Gesuriaid, a’r Maachathiaid, a hanner Gilead, terfyn Sehon brenin Hesbon. Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u trawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse.

Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a drawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal‐Gad, yng nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ôl eu rhannau; Yn y mynydd, ac yn y dyffryn, ac yn y gwastadedd, ac yn y bronnydd, ac yn yr anialwch, ac yn y deau; yr Hethiaid, yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, y Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid:

Brenin Jericho, yn un; brenin Ai, yr hwn oedd o ystlys Bethel, yn un; 10 Brenin Jerwsalem, yn un; brenin Hebron, yn un; 11 Brenin Jarmuth, yn un; brenin Lachis, yn un; 12 Brenin Eglon, yn un; brenin Geser, yn un; 13 Brenin Debir, yn un; brenin Geder, yn un; 14 Brenin Horma, yn un; brenin Arad, yn un; 15 Brenin Libna, yn un; brenin Adulam, yn un; 16 Brenin Macceda, yn un; brenin Bethel, yn un; 17 Brenin Tappua, yn un; brenin Heffer, yn un; 18 Brenin Affec, yn un; brenin Lasaron, yn un; 19 Brenin Madon, yn un; brenin Hasor, yn un; 20 Brenin Simron‐Meron, yn un; brenin Achsaff, yn un; 21 Brenin Taanach, yn un; brenin Megido, yn un; 22 Brenin Cades, yn un; brenin Jocneam o Carmel, yn un; 23 Brenin Dor yn ardal Dor, yn un; brenin y cenhedloedd o Gilgal, yn un; 24 Brenin Tirsa, yn un: yr holl frenhinoedd oedd un ar ddeg ar hugain.

Luc 1:39-56

39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i’r mynydd‐dir ar frys, i ddinas o Jwda; 40 Ac a aeth i mewn i dŷ Sachareias, ac a gyfarchodd well i Elisabeth. 41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r plentyn yn ei chroth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o’r Ysbryd Glân. 42 A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di. 43 Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd ataf fi? 44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i’m clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth. 45 A bendigedig yw’r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.

46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau’r Arglwydd, 47 A’m hysbryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdwr. 48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a’m geilw yn wynfydedig. 49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd; a sanctaidd yw ei enw ef. 50 A’i drugaredd sydd yn oes oesoedd ar y rhai a’i hofnant ef. 51 Efe a wnaeth gadernid â’i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon. 52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’u heisteddfâu, ac a ddyrchafodd y rhai isel radd. 53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da; ac efe a anfonodd ymaith y rhai goludog yn weigion. 54 Efe a gynorthwyodd ei was Israel, gan gofio ei drugaredd; 55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a’i had, yn dragywydd. 56 A Mair a arhosodd gyda hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i’w thŷ ei hun.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.