Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 12-14

12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. 10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. 11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. 12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. 13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi. 15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn. 16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.

13 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt. A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll. A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Saccur. Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori. Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff. Dros lwyth Effraim, Osea mab Nun. Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raffu. 10 Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi. 11 O lwyth Joseff, dros lwyth Manasse, Gadi mab Susi. 12 Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali. 13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael. 14 Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi. 15 Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci. 16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17 A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua’r deau, a dringwch i’r mynydd. 18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt: 19 A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd; 20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.

21 A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath. 22 Ac a aethant i fyny i’r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.) 23 A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys. 24 A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno. 25 A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod.

26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir. 27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. 28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac. 29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen. 30 A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi. 31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni. 32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol: 33 Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

14 Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn! A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft? A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aifft. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.

Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt. 10 A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? 12 Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.

13 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) 14 Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ymysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) 15 Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, 16 O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. 17 Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd, 18 Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 19 Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd yma. 20 A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air: 21 Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd. 22 Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, 23 Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: 24 Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef. 25 (Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.

26 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 27 Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn. 28 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi. 29 Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn, 30 Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun. 31 Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi. 32 A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn. 33 A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch. 34 Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i. 35 Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw. 36 A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir; 37 Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant feirw o’r pla, gerbron yr Arglwydd. 38 Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir. 39 A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.

40 A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom. 41 A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda. 42 Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion. 43 Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi. 44 Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll. 45 Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Horma.

Marc 5:21-43

21 Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr. 22 Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef; 23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd. 24 A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef. 25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd, 26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth, 27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef; 28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf. 29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla. 30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad? 31 A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd? 32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn. 33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. 34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla. 35 Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro? 36 A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig. 37 Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. 38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer. 39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae. 40 A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd. 41 Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod. 42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr. 43 Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.