Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 7-8

Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi’r tabernacl, a’i eneinio a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u heneinio a’u sancteiddio hwynt; Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:) A’u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth. A chymerodd Moses y menni, a’r ychen, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid. Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt; A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad. Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.

10 A’r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru’r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru’r allor.

12 Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda. 13 A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 14 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 15 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 16 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 17 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.

18 Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar. 19 Efe a offrymodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 20 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 21 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 22 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 23 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.

24 Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Sabulon. 25 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 26 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 27 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 28 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 29 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elïab mab Helon.

30 Ar y pedwerydd dydd yr offrymodd Elisur mab Sedeur, tywysog meibion Reuben. 31 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 32 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 33 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 34 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 35 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisur mab Sedeur.

36 Ar y pumed dydd yr offrymodd Selumiel mab Surisadai, tywysog meibion Simeon. 37 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 38 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 39 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 40 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 41 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Selumiel mab Surisadai.

42 Ar y chweched dydd yr offrymodd Eliasaff mab Deuel, tywysog meibion Gad. 43 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 44 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 45 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 46 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 47 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Eliasaff mab Deuel.

48 Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim. 49 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 50 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 51 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 52 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 53 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.

54 Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse. 55 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 56 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 57 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 58 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 59 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.

60 Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin. 61 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 62 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 63 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 64 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 65 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.

66 Ar y degfed dydd yr offrymodd Ahieser mab Ammisadai, tywysog meibion Dan. 67 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 68 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 69 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 70 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 71 Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahieser mab Ammisadai.

72 Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymodd Pagiel mab Ocran, tywysog meibion Aser. 73 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 74 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 75 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 76 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 77 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Pagiel mab Ocran.

78 Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali. 79 Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm: 80 Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth: 81 Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth: 82 Un bwch geifr yn bech‐aberth: 83 Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Ahira mab Enan. 84 Dyma gysegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg ffiol arian, deuddeg llwy aur: 85 Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thrigain pob ffiol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ôl y sicl sanctaidd 86 Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl‐darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ôl y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl. 87 Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a’u blwyddiaid a deuddeg o fychod geifr, yn offrwm dros bechod. 88 A holl ychen yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, trigain o hyrddod, trigain o fychod, trigain o hesbyrniaid. Dyma gysegriad yr allor wedi ei heneinio. 89 Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau geriwb, ac efe a ddywedodd wrtho.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren. Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt. Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt. Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod. A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd. 10 A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid. 11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd. 12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid. 13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd. 14 A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi. 15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm. 16 Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi. 17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun. 18 A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel. 19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr. 20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt. 21 A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt. 22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 24 Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod. 25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy. 26 Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

Marc 4:21-41

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. 28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.

30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni? 31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear; 32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: 34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.