Old/New Testament
1 A’r Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymwch eich offrwm. 3 Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 4 A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto. 5 Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6 A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau. 7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân. 8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 9 Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
10 Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl. 11 A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du’r gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch. 12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a’i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 13 Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
14 Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod. 15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor. 16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du’r dwyrain, i’r lle y byddo y lludw. 17 Hollted ef, a’i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
2 Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno. 2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 3 A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4 Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5 Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew. 6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7 Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew. 8 A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor. 9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 10 A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw. 11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
12 Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd. 13 Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti. 14 Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf. 15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw. 16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.
3 Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. 2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. 3 Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; 4 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. 5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
6 Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl. 7 Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. 8 A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. 9 Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.
12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17 Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.
24 A’r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o’r deml: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau’r deml. 2 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll? Yn wir meddaf i chwi, Ni adewir yma garreg ar garreg, a’r ni ddatodir.
3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o’r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd? 4 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi. 5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer. 6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw’r diwedd eto. 7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daeargrynfâu mewn mannau. 8 A dechreuad gofidiau yw hyn oll. 9 Yna y’ch traddodant chwi i’ch gorthrymu, ac a’ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i. 10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd. 11 A gau broffwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. 12 Ac oherwydd yr amlha anwiredd, fe a oera cariad llawer. 13 Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig. 14 A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd. 15 Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;) 16 Yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd. 17 Y neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i gymryd dim allan o’i dŷ: 18 A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymryd ei ddillad. 19 A gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny. 20 Eithr gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf, nac ar y dydd Saboth: 21 Canys y pryd hwnnw y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechrau’r byd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith. 22 Ac oni bai fyrhau’r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny. 23 Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch. 24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau broffwydi, ac a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion. 25 Wele, rhagddywedais i chwi. 26 Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. 27 Oblegid fel y daw’r fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. 28 Canys pa le bynnag y byddo’r gelain, yno yr ymgasgl yr eryrod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.