Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Sechareia 1-4

Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch ataf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd. Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr Arglwydd. Eich tadau, pa le y maent hwy? a’r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth? Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. 10 A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear. 11 A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12 Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? 13 A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. 14 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: 15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. 17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn. 19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem. 20 A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd. 21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.

Dyrchefais fy llygaid drachefn, ac edrychais; ac wele ŵr, ac yn ei law linyn mesur. A dywedais, I ba le yr ei di? Ac efe a ddywedodd wrthyf, I fesuro Jerwsalem, i weled beth yw ei lled hi, a pheth yw ei hyd hi. Ac wele yr angel a oedd yn ymddiddan â mi yn myned allan, ac angel arall yn myned allan i’w gyfarfod ef. Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhed, llefara wrth y llanc hwn, gan ddywedyd, Jerwsalem a gyfanheddir fel maestrefi, rhag amled dyn ac anifail o’i mewn. Canys byddaf iddi yn fur o dân o amgylch, medd yr Arglwydd, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.

Ho, ho, deuwch allan, a ffowch o wlad y gogledd, medd yr Arglwydd: canys taenais chwi fel pedwar gwynt y nefoedd, medd yr Arglwydd. O Seion, ymachub, yr hon wyt yn preswylio gyda merch Babilon. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y’m hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a’ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef. Canys wele fi yn ysgwyd fy llaw arnynt, a byddant yn ysglyfaeth i’w gweision: a chânt wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd.

10 Cân a llawenycha, merch Seion: canys wele fi yn dyfod; a mi a drigaf yn dy ganol di, medd yr Arglwydd. 11 A’r dydd hwnnw cenhedloedd lawer a ymlynant wrth yr Arglwydd, ac a fyddant bobl i mi: a mi a drigaf yn dy ganol di; a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atat. 12 A’r Arglwydd a etifedda Jwda, ei ran yn y tir sanctaidd, ac a ddewis Jerwsalem drachefn. 13 Pob cnawd, taw yng ngŵydd yr Arglwydd: canys cyfododd o drigfa ei sancteiddrwydd.

Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i’w wrthwynebu ef. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan; sef yr Arglwydd yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a’th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o’r tân? A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngŵydd yr angel. Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd oddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad. A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a’i gwisgasant â dillad; ac angel yr Arglwydd oedd yn sefyll gerllaw. Ac angel yr Arglwydd a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhŷ, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma. Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a’th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwŷr rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN. Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod. 10 Y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.

A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi, a ddychwelodd, ac a’m deffrôdd, fel y deffroir un o’i gwsg, Ac a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Edrychais, ac wele ganhwyllbren i gyd o aur, a’i badell ar ei ben, a’i saith lusern arno, a saith o bibellau i’r saith lusern oedd ar ei ben ef; A dwy olewydden wrtho, y naill o’r tu deau i’r badell, a’r llall o’r tu aswy iddi. A mi a atebais, ac a ddywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A’r angel oedd yn ymddiddan â mi, a atebodd, ac a ddywedodd wrthyf, Oni wyddost beth yw y rhai yma? Yna y dywedais, Na wn, fy arglwydd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd, Hyn yw gair yr Arglwydd at Sorobabel, gan ddywedyd, Nid trwy lu, ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd, medd Arglwydd y lluoedd. Pwy wyt ti, y mynydd mawr? gerbron Sorobabel y byddi yn wastadedd; ac efe a ddwg allan y maen pennaf, gan weiddi, Rhad, rhad iddo. Daeth gair yr Arglwydd ataf drachefn, gan ddywedyd, Dwylo Sorobabel a sylfaenasant y tŷ hwn, a’i ddwylo ef a’i gorffen: a chei wybod mai Arglwydd y lluoedd a’m hebryngodd atoch. 10 Canys pwy a ddiystyrodd ddydd y pethau bychain? canys llawenychant, a gwelant y garreg alcam yn llaw Sorobabel gyda’r saith hynny: llygaid yr Arglwydd ydynt, y rhai sydd yn cyniwair trwy yr holl ddaear.

11 A mi a atebais ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddwy olewydden hyn, ar y tu deau i’r canhwyllbren, ac ar ei aswy? 12 A mi a atebais drachefn, ac a ddywedais wrtho, Beth yw y ddau bincyn olewydden, y rhai trwy y ddwy bibell aur sydd yn tywallt allan ohonynt eu hunain yr olew euraid? 13 Ac efe a lefarodd wrthyf, gan ddywedyd, Oni wyddost ti beth yw y rhai hyn? A dywedais, Na wn, fy arglwydd. 14 Ac efe a ddywedodd, Dyma y ddwy gainc olewydden sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

Datguddiad 18

18 Ac ar ôl y pethau hyn mi a welais angel arall yn dyfod i waered o’r nef, ac awdurdod mawr ganddo; a’r ddaear a oleuwyd gan ei ogoniant ef. Ac efe a lefodd yn groch â llef uchel, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwraeth pob ysbryd aflan, ac yn gadwraeth pob aderyn aflan ac atgas. Oblegid yr holl genhedloedd a yfasant o win digofaint ei godineb hi, a brenhinoedd y ddaear a buteiniasant gyda hi, a marchnatawyr y ddaear a gyfoethogwyd gan amlder ei moethau hi. Ac mi a glywais lef arall o’r nef yn dywedyd, Deuwch allan ohoni hi, fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfranogion o’i phechodau hi, ac na dderbynioch o’i phlâu hi. Oblegid ei phechodau hi a gyraeddasant hyd y nef, a Duw a gofiodd ei hanwireddau hi. Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi’r dau cymaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwpan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddauddyblyg. Cymaint ag yr ymogoneddodd hi, ac y bu mewn moethau, y cymaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wyf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar nis gwelaf ddim. Am hynny yn un dydd y daw ei phlâu hi, sef marwolaeth, a galar, a newyn; a hi a lwyr losgir â thân: oblegid cryf yw’r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi. Ac wylo amdani, a galaru drosti, a wna brenhinoedd y ddaear, y rhai a buteiniasant ac a fuant fyw yn foethus gyda hi, pan welont fwg ei llosgiad hi, 10 Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, Babilon, y ddinas gadarn! oblegid mewn un awr y daeth dy farn di. 11 A marchnatawyr y ddaear a wylant ac a alarant drosti; oblegid nid oes neb mwyach yn prynu eu marsiandïaeth hwynt: 12 Marsiandïaeth o aur, ac arian, a meini gwerthfawr, a pherlau, a lliain main, a phorffor, a sidan, ac ysgarlad, a phob coed thynon, a phob llestr o ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haearn, ac o faen marmor, 13 A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweision, ac eneidiau dynion. 14 A’r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthyt, a phob peth danteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthyt; ac ni chei hwynt ddim mwyach. 15 Marchnatawyr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wylo a galaru. 16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisgo â lliain main, a phorffor, ac ysgarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau! 17 Oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd cymaint cyfoeth. A phob llong-lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llongwyr, a chynifer ag y sydd â’u gwaith ar y môr, a safasant o hirbell, 18 Ac a lefasant, pan welsant fwg ei llosgiad hi, gan ddywedyd, Pa ddinas debyg i’r ddinas fawr honno! 19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant, gan wylo a galaru, a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chost hi! oblegid mewn un awr yr anrheithiwyd hi. 20 Llawenha o’i phlegid hi, y nef, a chwi, apostolion sanctaidd a phroffwydi; oblegid dialodd Duw arni drosoch chwi. 21 Ac angel cadarn a gododd faen megis maen melin mawr, ac a’i bwriodd i’r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babilon, y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach. 22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach; 23 A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd. 24 Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a’r a laddwyd ar y ddaear.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.