Old/New Testament
1 Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o’r mis, (a mi ymysg y gaethglud wrth afon Chebar,) agoryd y nefoedd, a gwelwn weledigaethau Duw. 2 Yn y pumed dydd o’r mis, honno oedd y bumed flwyddyn o gaethgludiad brenin Jehoiachin, 3 Y daeth gair yr Arglwydd yn eglur at Eseciel yr offeiriad, mab Busi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr Arglwydd arno ef.
4 Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o’r gogledd gorwynt, a chwmwl mawr, a thân yn ymgymryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o’i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr. 5 Hefyd o’i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; dull dyn oedd iddynt. 6 A phedwar wyneb i bob un, a phedair adain i bob un ohonynt. 7 A’u traed yn draed union; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw. 8 Ac yr oedd dwylo dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a’u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar. 9 Eu hadenydd hwynt oedd wedi eu cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni throent; aent bob un yn union rhag ei wyneb. 10 Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu deau iddynt ill pedwar: ac wyneb ych o’r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar. 11 Dyma eu hwynebau hwynt; a’u hadenydd oedd wedi eu dosbarthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cysylltu â’i gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrff. 12 Aent hefyd bob un yn union rhag ei wyneb; i’r lle y byddai yr ysbryd ar fyned, yno yr aent; ni throent pan gerddent. 13 Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o’r tân. 14 Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15 Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyda’i bedwar wyneb. 16 Dull yr olwynion a’u gwaith oedd fel lliw beryl: a’r un dull oedd iddynt ill pedair; a’u gwedd hwynt a’u gwaith fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn. 17 Pan elent, aent ar eu pedwar ochr: ni throent pan gerddent. 18 Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a’u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar. 19 A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion. 20 I’r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned; a’r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 21 Cerddent pan gerddent hwythau, a safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion. 22 Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd. 23 A than y ffurfafen yr oedd eu hadenydd hwynt yn union, y naill tuag at y llall: dwy i bob un yn eu cuddio o’r naill du, a dwy i bob un yn cuddio eu cyrff o’r tu arall. 24 A mi a glywn sŵn eu hadenydd hwynt, fel sŵn dyfroedd lawer, fel sŵn yr Hollalluog, pan gerddent: sŵn lleferydd, fel sŵn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd. 25 Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.
26 Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn. 27 Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tân o’i fewn o amgylch: o welediad ei lwynau ac uchod, ac o welediad ei lwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch. 28 Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd gogoniant yr Arglwydd. A phan welais, syrthiais ar fy wyneb, a chlywais lais un yn llefaru.
2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, saf ar dy draed, a mi a lefaraf wrthyt. 2 A’r ysbryd a aeth ynof, pan lefarodd efe wrthyf, ac a’m gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthyf. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, yr ydwyf fi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genedl wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelasant i’m herbyn; hwynt‐hwy a’u tadau a droseddasant i’m herbyn, hyd gorff y dydd hwn. 4 Meibion wyneb‐galed hefyd a chadarn galon yr wyf fi yn dy ddanfon atynt: dywed dithau wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw. 5 A pha un bynnag a wnelont ai gwrando, ai peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt,) eto cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg hwynt.
6 Tithau fab dyn, nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er eu geiriau hwynt, er bod gwrthryfelwyr a drain gyda thi, a thithau yn trigo ymysg ysgorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. 7 Eto llefara di fy ngeiriau wrthynt, pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio; canys gwrthryfelgar ydynt. 8 Tithau fab dyn, gwrando yr hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthyt, Na fydd di wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: lleda dy safn, a bwyta yr hyn yr ydwyf fi yn ei roddi i ti.
9 Yna yr edrychais, ac wele law wedi ei hanfon ataf, ac wele ynddi blyg llyfr. 10 Ac efe a’i dadblygodd o’m blaen i: ac yr oedd efe wedi ei ysgrifennu wyneb a chefn; ac yr oedd wedi ysgrifennu arno, galar, a griddfan, a gwae.
11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. 2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. 3 Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. 4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. 8 Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. 9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11 Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12 Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. 13 Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. 14 Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. 15 Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o’r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: 16 Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt. 17 Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai’r addewidion: 18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had: 19 Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.