Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 48-49

48 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd. Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i’w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a’th erlid. Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr. Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd. Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr. Ffowch, achubwch eich einioes; a byddwch fel y grug yn yr anialwch.

Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a’th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a’i offeiriaid a’i dywysogion ynghyd. A’r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a’r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr Arglwydd. Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt. 10 Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.

11 Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl. 12 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a’i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau. 13 A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.

14 Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel? 15 Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o’i dinasoedd, a’i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i’r lladdfa, medd y Brenin, a’i enw Arglwydd y lluoedd. 16 Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a’i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest. 17 Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o’i hamgylch; a phawb a’r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a’r wialen hardd! 18 O breswylferch Dibon, disgyn o’th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i’th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd. 19 Preswylferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwylia; gofyn i’r hwn a fyddo yn ffoi, ac i’r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu? 20 Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab; 21 A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath, 22 Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth‐diblathaim, 23 Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth‐gamul, ac ar Beth‐meon. 24 Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos. 25 Corn Moab a ysgythrwyd, a’i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.

26 Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd. 27 Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist. 28 Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll. 29 Nyni a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a’i hymchwydd, ac uchder ei chalon. 30 Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr Arglwydd; ond nid felly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly. 31 Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres. 32 Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin. 33 A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o’r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i’r gwin ddarfod o’r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest. 34 O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd. 35 Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a’r hwn sydd yn arogldarthu i’w dduwiau. 36 Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd. 37 Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain. 38 Ar holl bennau tai Moab, a’i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd. 39 Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o’i hamgylch. 40 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab. 41 Y dinasoedd a oresgynnir, a’r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor. 42 A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd. 43 Ofn, a ffos, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd. 44 Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfyd o’r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd. 45 Yng nghysgod Hesbon y safodd y rhai a ffoesant rhag y cadernid: eithr tân a ddaw allan o Hesbon, a fflam o ganol Sihon, ac a ysa gongl Moab, a chorun y meibion trystfawr. 46 Gwae di, Moab! darfu am bobl Cemos: canys cymerwyd ymaith dy feibion yn gaethion, a’th ferched yn gaethion.

47 Eto myfi a ddychwelaf gaethiwed Moab yn y dyddiau diwethaf, medd yr Arglwydd. Hyd yma y mae barn Moab.

49 Am feibion Ammon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef? Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a’i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef, medd yr Arglwydd. Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwregyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd. Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi? Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd, rhag pawb o’th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad. Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt? Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy. Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon. 10 Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a’i frodyr a’i gymdogion, ac nid yw efe. 11 Gad dy amddifaid, myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi. 12 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr. 13 Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol. 14 Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr Arglwydd, bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel. 15 Oherwydd wele, myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion. 16 Dy erwindeb a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr Arglwydd. 17 Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi. 18 Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr Arglwydd; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi. 19 Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i? 20 Am hynny gwrandewch gyngor yr Arglwydd, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt. 21 Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch. 22 Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

23 Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys. 24 Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a’i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor. 25 Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd? 26 Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd. 27 A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.

28 Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain. 29 Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a’u holl lestri, a’u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.

30 Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr Arglwydd: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi. 31 Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr Arglwydd, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo. 32 A’u camelod a fydd yn anrhaith, a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr Arglwydd. 33 Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

34 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd, 35 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt. 36 A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam. 37 Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a’r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr Arglwydd; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt. 38 A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion, medd yr Arglwydd.

39 Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr Arglwydd.

Hebreaid 7

Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi‐ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. 10 Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef. 11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron? 12 Canys wedi newidio’r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd. 13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor. 14 Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth. 15 Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi, 16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol. 17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 18 Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles. 19 Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw. 20 Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad: 21 (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:) 22 Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd. 23 A’r rhai hynny yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau: 24 Ond hwn, am ei fod ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo. 25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. 26 Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni; 27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun. 28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.