Old/New Testament
43 A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn: 2 Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno. 3 Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon. 4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda: 5 Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda; 6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia. 7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd, 9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda; 10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt. 11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf. 12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a’u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch. 13 Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.
44 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt: 3 O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau. 4 Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddywedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddbeth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi: 5 Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr. 6 Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw. 7 Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill? 8 Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear. 9 A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? 10 Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau. 11 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda. 12 A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw: a hwy a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth. 13 Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais â Jerwsalem, â chleddyf, â newyn, ac â haint: 14 Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddychwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant.
15 Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogldarthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, 16 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd, ni wrandawn ni arnat. 17 Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhinoedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. 18 Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni. 19 A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod‐offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi?
20 Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd, 21 Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef? 22 Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn. 23 Oherwydd i chwi arogldarthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw. 24 A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr Arglwydd, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft. 25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch â’ch genau, ac a gyflawnasoch â’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod‐offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch. 26 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr Arglwydd, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr Arglwydd Dduw. 27 Wele, mi a wyliaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda, y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont. 28 A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.
29 A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr Arglwydd, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed. 30 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.
45 Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch; 3 Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra.
4 Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr Arglwydd a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid amgen yr holl wlad hon. 5 Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr Arglwydd: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.
5 Canys pob archoffeiriad wedi ei gymryd o blith dynion, a osodir dros ddynion yn y pethau sydd tuag at Dduw, fel yr offrymo roddion ac aberthau dros bechodau: 2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sydd mewn anwybodaeth ac amryfusedd; am ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid. 3 Ac o achos hyn y dylai, megis dros y bobl, felly hefyd drosto ei hun, offrymu dros bechodau. 4 Ac nid yw neb yn cymryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. 5 Felly Crist hefyd nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab; myfi heddiw a’th genhedlais di. 6 Megis y mae yn dywedyd mewn lle arall, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. 7 Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; 8 Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd‐dod trwy’r pethau a ddioddefodd: 9 Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhant iddo; 10 Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec. 11 Am yr hwn y mae i ni lawer i’w dywedyd, ac anodd eu traethu, o achos eich bod chwi yn hwyrdrwm eich clustiau. 12 Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. 13 Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw. 14 Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.