Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 15-17

15 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Pe safai Moses a Samuel ger fy mron, eto ni byddai fy serch ar y bobl yma; bwrw hwy allan o’m golwg, ac elont ymaith. Ac os dywedant wrthyt, I ba le yr awn? tithau a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Y sawl sydd i angau, i angau; a’r sawl i’r cleddyf, i’r cleddyf; a’r sawl i’r newyn, i’r newyn; a’r sawl i gaethiwed, i gaethiwed. A mi a osodaf arnynt bedwar rhywogaeth, medd yr Arglwydd: y cleddyf, i ladd; a’r cŵn, i larpio; ac adar y nefoedd, ac anifeiliaid y ddaear, i ysu ac i ddifa. Ac a’u rhoddaf hwynt i’w symudo i holl deyrnasoedd y ddaear; herwydd Manasse mab Heseceia brenin Jwda, am yr hyn a wnaeth efe yn Jerwsalem. Canys pwy a drugarha wrthyt ti, O Jerwsalem? a phwy a gwyna i ti? a phwy a dry i ymofyn pa fodd yr wyt ti? Ti a’m gadewaist, medd yr Arglwydd, ac a aethost yn ôl: am hynny yr estynnaf fy llaw yn dy erbyn di, ac a’th ddifethaf; myfi a flinais yn edifarhau. A mi a’u chwalaf hwynt â gwyntyll ym mhyrth y wlad: diblantaf, difethaf fy mhobl, gan na ddychwelant oddi wrth eu ffyrdd. Eu gweddwon a amlhasant i mi tu hwnt i dywod y môr: dygais arnynt yn erbyn mam y gwŷr ieuainc, anrheithiwr ganol dydd; perais iddo syrthio yn ddisymwth arni hi, a dychryn ar y ddinas. Yr hon a blantodd saith, a lesgaodd: ei henaid hi a lesmeiriodd, ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd; hi a gywilyddiodd, ac a waradwyddwyd; a rhoddaf y gweddillion ohonynt i’r cleddyf yng ngŵydd eu gelynion, medd yr Arglwydd.

10 Gwae fi, fy mam, ymddŵyn ohonot fi yn ŵr ymryson ac yn ŵr cynnen i’r holl ddaear! ni logais, ac ni logwyd i mi; eto pawb ohonynt sydd yn fy melltithio i. 11 Yr Arglwydd a ddywedodd, Yn ddiau bydd dy weddill di mewn daioni; yn ddiau gwnaf i’r gelyn fod yn dda wrthyt, yn amser adfyd ac yn amser cystudd. 12 A dyr haearn yr haearn o’r gogledd, a’r dur? 13 Dy gyfoeth a’th drysorau a roddaf yn ysbail, nid am werth, ond oblegid dy holl bechodau, trwy dy holl derfynau. 14 Gwnaf i ti fyned hefyd gyda’th elynion i dir nid adwaenost: canys tân a enynnodd yn fy nigofaint, arnoch y llysg.

15 Ti a wyddost, Arglwydd; cofia fi, ac ymwêl â mi, a dial drosof ar fy erlidwyr; na ddwg fi ymaith yn dy hirymaros: gwybydd ddwyn ohonof waradwydd er dy fwyn di. 16 Dy eiriau a gaed, a mi a’u bwyteais hwynt; ac yr oedd dy air di i mi yn llawenydd ac yn hyfrydwch fy nghalon: canys dy enw di a alwyd arnaf fi, O Arglwydd Dduw y lluoedd. 17 Nid eisteddais yng nghymanfa y gwatwarwyr, ac nid ymhyfrydais: eisteddais fy hunan oherwydd dy law di; canys ti a’m llenwaist i o lid. 18 Paham y mae fy nolur i yn dragwyddol? a’m pla yn anaele, fel na ellir ei iacháu? a fyddi di i mi megis celwyddog, neu fel dyfroedd a ballant?

19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os dychweli, yna y’th ddygaf eilwaith, a thi a sefi ger fy mron; os tynni ymaith y gwerthfawr oddi wrth y gwael, byddi fel fy ngenau i: dychwelant hwy atat ti, ond na ddychwel di atynt hwy. 20 Gwnaf di hefyd i’r bobl yma yn fagwyr efydd gadarn; a hwy a ryfelant yn dy erbyn di, eithr ni’th orchfygant: canys yr ydwyf fi gyda thi, i’th achub ac i’th wared, medd yr Arglwydd. 21 A mi a’th waredaf di o law y rhai drygionus, ac a’th ryddhaf di o law yr ofnadwy.

16 Gair yr Arglwydd a ddaeth hefyd ataf fi, gan ddywedyd, Na chymer i ti wraig, ac na fydded i ti feibion na merched, yn y lle hwn. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am y meibion ac am y merched a anwyd yn y lle hwn, ac am eu mamau a’u dug hwynt, ac am eu tadau a’u cenhedlodd hwynt yn y wlad hon; O angau nychlyd y byddant feirw: ni alerir amdanynt, ac nis cleddir hwynt: byddant fel tail ar wyneb y ddaear, a darfyddant trwy y cleddyf, a thrwy newyn; a’u celaneddau fydd yn ymborth i adar y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddos i dŷ y galar, ac na ddos i alaru, ac na chwyna iddynt: canys myfi a gymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn, medd yr Arglwydd, sef trugaredd a thosturi. A byddant feirw yn y wlad hon, fawr a bychan: ni chleddir hwynt, ac ni alerir amdanynt; nid ymdorrir ac nid ymfoelir drostynt. Ni rannant iddynt fwyd mewn galar, i roi cysur iddynt am y marw; ac ni pharant iddynt yfed o ffiol cysur, am eu tad, neu am eu mam. Na ddos i dŷ gwledd, i eistedd gyda hwynt i fwyta ac i yfed. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a baraf i lais cerdd a llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, ddarfod o’r lle hwn, o flaen eich llygaid, ac yn eich dyddiau chwi.

10 A phan ddangosech i’r bobl yma yr holl eiriau hyn, ac iddynt hwythau ddywedyd wrthyt, Am ba beth y llefarodd yr Arglwydd yr holl fawr ddrwg hyn i’n herbyn ni? neu, Pa beth yw ein hanwiredd? neu, Beth yw ein pechod a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw? 11 Yna y dywedi wrthynt, Oherwydd i’ch tadau fy ngadael i, medd yr Arglwydd, a myned ar ôl duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt, a’m gwrthod i, a bod heb gadw fy nghyfraith; 12 A chwithau a wnaethoch yn waeth na’ch tadau, canys wele chwi yn rhodio bob un yn ôl cyndynrwydd ei galon ddrwg, heb wrando arnaf; 13 Am hynny mi a’ch taflaf chwi o’r tir hwn, i wlad nid adwaenoch chwi na’ch tadau; ac yno y gwasanaethwch dduwiau dieithr ddydd a nos, lle ni ddangosaf i chwi ffafr.

14 Gan hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedir mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o dir yr Aifft: 15 Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny feibion Israel o dir y gogledd, ac o’r holl diroedd lle y gyrasai efe hwynt: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w gwlad a roddais i’w tadau.

16 Wele fi yn anfon am bysgodwyr lawer, medd yr Arglwydd, a hwy a’u pysgotant hwy; ac wedi hynny mi a anfonaf am helwyr lawer, a hwy a’u heliant hwynt oddi ar bob mynydd, ac oddi ar bob bryn, ac o ogofeydd y creigiau. 17 Canys y mae fy ngolwg ar eu holl ffyrdd hwynt: nid ydynt guddiedig o’m gŵydd i, ac nid yw eu hanwiredd hwynt guddiedig oddi ar gyfer fy llygaid. 18 Ac yn gyntaf myfi a dalaf yn ddwbl am eu hanwiredd a’u pechod hwynt; am iddynt halogi fy nhir â’u ffiaidd gelanedd; ie, â’u ffieidd‐dra y llanwasant fy etifeddiaeth. 19 O Arglwydd, fy nerth a’m cadernid, a’m noddfa yn nydd blinder; atat ti y daw y Cenhedloedd o eithafoedd y ddaear, ac a ddywedant, Diau mai celwydd a ddarfu i’n tadau ni ei etifeddu, oferedd, a phethau heb les ynddynt. 20 A wna dyn dduwiau iddo ei hun, a hwythau heb fod yn dduwiau? 21 Am hynny wele, mi a wnaf iddynt wybod y waith hon, dangosaf iddynt fy llaw a’m grym: a chânt wybod mai yr Arglwydd yw fy enw.

17 Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau; Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel. O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau. Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol. Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo. Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.

Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? 10 Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. 11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.

12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. 13 O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw. 14 Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant.

15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach. 16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. 17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. 18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.

19 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem; 20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn: 21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem; 22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. 23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg. 24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno: 25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth. 26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd. 27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.

2 Timotheus 2

Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu. A’r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda’r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist. Nid yw neb a’r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau’r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i’r hwn a’i dewisodd yn filwr. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon. Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau. Ystyria’r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth. Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i: Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir. 10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. 11 Gwir yw’r gair: Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: 12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a’n gwad ninnau: 13 Os ŷm ni heb gredu, eto y mae efe yn aros yn ffyddlon: nis gall efe ei wadu ei hun. 14 Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr. 15 Bydd ddyfal i’th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr di-fefl, yn iawn gyfrannu gair y gwirionedd. 16 Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb. 17 A’u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o’r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus; 18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. 19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo’r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder. 20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch. 21 Pwy bynnag gan hynny a’i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i’r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda. 22 Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda’r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur. 23 Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau. 24 Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar, 25 Mewn addfwynder yn dysgu’r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd; 26 A bod iddynt ddyfod i’r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.