Old/New Testament
9 O na bai fy mhen yn ddyfroedd, a’m llygaid yn ffynnon o ddagrau, fel yr wylwn ddydd a nos am laddedigion merch fy mhobl! 2 O na byddai i mi yn yr anialwch lety fforddolion, fel y gadawn fy mhobl, ac yr elwn oddi wrthynt! canys hwynt oll ydynt odinebus, a chymanfa anffyddloniaid. 3 A hwy a anelasant eu tafod fel eu bwa i gelwydd; ac nid at wirionedd yr ymgryfhasant ar y ddaear: canys aethant o ddrwg i ddrwg, ac nid adnabuant fi, medd yr Arglwydd. 4 Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd: canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla, a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus. 5 Pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a’r gwir nis dywedant: hwy a ddysgasant eu tafodau i ddywedyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd. 6 Dy drigfan sydd yng nghanol twyll: oherwydd twyll y gwrthodasant fy adnabod i, medd yr Arglwydd. 7 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn eu toddi hwynt, ac yn eu profi hwynt: canys pa wedd y gwnaf oherwydd merch fy mhobl? 8 Saeth lem yw eu tafod hwy, yn dywedyd twyll: â’i enau y traetha un heddwch wrth ei gymydog, eithr o’i fewn y gesyd gynllwyn iddo.
9 Onid ymwelaf â hwynt am hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon? 10 Dros y mynyddoedd y codaf wylofain a chwynfan, a galar dros lanerchau yr anialwch; am eu llosgi hwynt, fel na thramwyo neb trwyddynt, ac na chlywir llais ysgrubliaid: adar y nefoedd a’r anifeiliaid hefyd a giliasant, aethant ymaith. 11 A mi a wnaf Jerwsalem yn garneddau, ac yn drigfan dreigiau; a dinasoedd Jwda a wnaf yn ddiffeithwch heb breswylydd.
12 Pa ŵr sydd ddoeth a ddeall hyn? a phwy y traethodd genau yr Arglwydd wrtho, fel y mynego paham y darfu am y tir, ac y llosgwyd fel anialwch heb gyniweirydd? 13 A dywedodd yr Arglwydd, Am wrthod ohonynt fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eu bron hwynt, ac na wrandawsant ar fy llef, na rhodio ynddi; 14 Eithr myned yn ôl cyndynrwydd eu calon eu hun, ac yn ôl Baalim, yr hyn a ddysgodd eu tadau iddynt: 15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Wele, mi a’u bwydaf hwynt, y bobl hyn, â wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl. 16 Gwasgaraf hwynt hefyd ymysg cenhedloedd nid adnabuant hwy na’u tadau: a mi a ddanfonaf ar eu hôl hwynt gleddyf, hyd oni ddifethwyf hwynt.
17 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Edrychwch, a gelwch am alarwragedd i ddyfod, a danfonwch am y rhai cyfarwydd, i beri iddynt ddyfod, 18 A brysio, a chodi cwynfan amdanom ni, fel y gollyngo ein llygaid ni ddagrau, ac y difero ein hamrantau ni ddwfr. 19 Canys llais cwynfan a glybuwyd o Seion, Pa wedd y’n hanrheithiwyd! Ni a lwyr waradwyddwyd; oherwydd i ni adael y tir, oherwydd i’n trigfannau ein bwrw ni allan. 20 Eto gwrandewch air yr Arglwydd, O wragedd, a derbynied eich clust air ei enau ef; dysgwch hefyd gwynfan i’ch merched, a galar bob un i’w gilydd. 21 Oherwydd dringodd angau i’n ffenestri, ac efe a ddaeth i’n palasau, i ddistrywio y rhai bychain oddi allan, a’r gwŷr ieuainc o’r heolydd. 22 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Celaneddau dynion a syrthiant megis tom ar wyneb y maes, ac megis y dyrnaid ar ôl y medelwr, ac ni chynnull neb hwynt.
23 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ymffrostied y cryf yn ei gryfder, ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; 24 Eithr y neb a ymffrostio, ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd a wna drugaredd, barn, a chyfiawnder, yn y ddaear: oherwydd yn y rhai hynny yr ymhyfrydais, medd yr Arglwydd.
25 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf â phob enwaededig ynghyd â’r rhai dienwaededig; 26 A’r Aifft, ac â Jwda, ac ag Edom, ac â meibion Ammon, ac â Moab, ac â’r rhai oll sydd yn y cyrrau eithaf, a’r rhai a drigant yn yr anialwch: canys yr holl genhedloedd hyn sydd ddienwaededig, a holl dŷ Israel sydd â chalon ddienwaededig.
10 Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi, tŷ Israel: 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy. 3 Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. 4 Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. 5 Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt. 6 Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, Arglwydd: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid. 7 Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi. 8 Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff. 9 Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll. 10 Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw, efe yw y Duw byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. 11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. 12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr. 13 Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau. 14 Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. 15 Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt. 16 Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. Arglwydd y lluoedd yw ei enw. 17 Casgl o’r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa. 18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.
19 Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf. 20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni. 21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir. 22 Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.
23 Gwn, Arglwydd, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad. 24 Cosba fi, Arglwydd, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim. 25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.
11 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem; 3 Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn, 4 Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau: 5 Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O Arglwydd, felly y byddo. 6 Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt. 7 Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais. 8 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant. 9 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem. 10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.
11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt. 12 Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd. 13 Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal. 14 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd. 15 Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit. 16 Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a’i changhennau a dorrwyd. 17 Canys Arglwydd y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.
18 A’r Arglwydd a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy. 19 A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy. 20 Eithr, O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn. 21 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr Arglwydd, rhag dy farw trwy ein dwylo ni: 22 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn. 23 Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.
6 Cynifer ag sydd wasanaethwyr dan yr iau, tybiant eu meistriaid eu hun yn deilwng o bob anrhydedd; fel na chabler enw Duw, a’i athrawiaeth ef. 2 A’r rhai sydd â meistriaid ganddynt yn credu, na ddiystyrant hwynt, oherwydd eu bod yn frodyr; eithr yn hytrach gwasanaethant hwynt, am eu bod yn credu, ac yn annwyl, yn gyfranogion o’r llesâd. Y pethau hyn dysg a chynghora. 3 Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â’r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb; 4 Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o’r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod, 5 Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw. 6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd. 7 Canys ni ddygasom ni ddim i’r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith. 8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny. 9 Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth. 10 Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a’u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau. 11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. 12 Ymdrecha hardd‐deg ymdrech y ffydd; cymer afael ar y bywyd tragwyddol; i’r hwn hefyd y’th alwyd, ac y proffesaist broffes dda gerbron llawer o dystion. 13 Yr ydwyf yn gorchymyn i ti gerbron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pob peth, a cherbron Crist Iesu, yr hwn dan Pontius Peilat a dystiodd broffes dda; 14 Gadw ohonot y gorchymyn hwn yn ddifeius, yn ddiargyhoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist: 15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a’r unig Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi; 16 Yr hwn yn unig sydd ganddo anfarwoldeb, sydd yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod ato, yr hwn nis gwelodd un dyn, ac ni ddichon ei weled: i’r hwn y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol. Amen. 17 Gorchymyn i’r rhai sydd oludog yn y byd yma, na byddont uchel feddwl, ac na obeithiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bob peth i’w mwynhau: 18 Ar iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fod yn hawdd ganddynt roddi a chyfrannu; 19 Yn trysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol. 20 O Timotheus, cadw’r hyn a roddwyd i’w gadw atat, gan droi oddi wrth halogedig ofer‐sain, a gwrthwyneb gwybodaeth, a gamenwir felly: 21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffesu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd. Gras fyddo gyda thi. Amen.
Y cyntaf at Timotheus a ysgrifennwyd o Laodicea, yr hon yw prifddinas Phrygia Pacatiana.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.