Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 1-2

Geiriau Jeremeia mab Hilceia, o’r offeiriaid y rhai oedd yn Anathoth, o fewn tir Benjamin: Yr hwn y daeth gair yr Arglwydd ato, yn nyddiau Joseia mab Amon brenin Jwda, yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o’i deyrnasiad ef. Ac fe ddaeth yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, nes darfod un flynedd ar ddeg i Sedeceia mab Joseia brenin Jwda, hyd ddygiad Jerwsalem i gaethiwed yn y pumed mis. Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Cyn i mi dy lunio di yn y groth, mi a’th adnabûm; a chyn dy ddyfod o’r groth, y sancteiddiais di; a mi a’th roddais yn broffwyd i’r cenhedloedd. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni fedraf ymadrodd; canys bachgen ydwyf fi.

Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na ddywed, Bachgen ydwyf fi: canys ti a ei at y rhai oll y’th anfonwyf, a’r hyn oll a orchmynnwyf i ti a ddywedi. Nac ofna rhag eu hwynebau hwynt: canys yr ydwyf fi gyda thi i’th waredu, medd yr Arglwydd. Yna yr estynnodd yr Arglwydd ei law, ac a gyffyrddodd â’m genau. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, rhoddais fy ngeiriau yn dy enau di. 10 Gwêl, heddiw y’th osodais ar y cenhedloedd, ac ar y teyrnasoedd, i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, i ddifetha, ac i ddistrywio, i adeiladu, ac i blannu.

11 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni. 13 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd. 14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir. 15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda. 16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.

17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt. 18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir. 19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr Arglwydd.

A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y’m canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd. Israel ydoedd sancteiddrwydd i’r Arglwydd, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a’r a’i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr Arglwydd. Gwrandewch air yr Arglwydd, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer? Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo? Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra. Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr Arglwydd? a’r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i’m herbyn, a’r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.

Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi. 10 Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth. 11 A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd. 12 O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd. 13 Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a’m gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

14 Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef? 15 Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a’i dir ef a osodasant yn anrhaith, a’i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd. 16 Meibion Noff hefyd a Thahapanes a dorasant dy gorun di. 17 Onid tydi a beraist hyn i ti dy hun, am wrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, pan ydoedd efe yn dy arwain ar hyd y ffordd? 18 A’r awr hon, beth sydd i ti a wnelych yn ffordd yr Aifft, i yfed dwfr Nilus? a pheth sydd i ti yn ffordd Asyria, i yfed dwfr yr afon? 19 Dy ddrygioni dy hun a’th gosba di, a’th wrthdro a’th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

20 Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog. 21 Eto myfi a’th blanaswn yn bêr winwydden, o’r iawn had oll: pa fodd gan hynny y’th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr? 22 Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw. 23 Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd. 24 Asen wyllt wedi ei chynefino â’r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a’i try ymaith? pawb a’r a’i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi. 25 Cadw dy droed rhag noethni, a’th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi. 26 Megis y cywilyddia lleidr pan ddalier ef, felly y cywilyddia tŷ Israel; hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, a’u hoffeiriaid, a’u proffwydi; 27 Y rhai a ddywedant wrth bren, Tydi yw fy nhad; ac wrth garreg, Ti a’m cenhedlaist. Canys hwy a droesant ataf fi wegil, ac nid wyneb: ond yn amser eu hadfyd y dywedant, Cyfod, a chadw ni. 28 Eithr pa le y mae dy dduwiau, y rhai a wnaethost i ti? codant, os gallant dy gadw yn amser dy adfyd: canys wrth rifedi dy ddinasoedd y mae dy dduwiau di, O Jwda. 29 Paham yr ymddadleuwch â mi? chwi oll a droseddasoch i’m herbyn, medd yr Arglwydd. 30 Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

31 O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti? 32 A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif. 33 Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus. 34 Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll. 35 Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf â thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais. 36 Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y’th waradwyddwyd oherwydd Asyria. 37 Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a’th ddwylo ar dy ben: oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

1 Timotheus 3

Gwir yw’r gair, Od yw neb yn chwennych swydd esgob, gwaith da y mae yn ei chwennych. Rhaid gan hynny i esgob fod yn ddiargyhoedd, yn ŵr un wraig, yn wyliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletygar, yn athrawaidd; Nid yn wingar, nid yn drawydd, nid yn budrelwa; eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddiariangar; Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn ufudd‐dod ynghyd â phob onestrwydd; (Oblegid oni fedr un lywodraethu ei dŷ ei hun, pa fodd y cymer efe ofal dros eglwys Dduw?) Nid yn newyddian yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol. Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan; rhag iddo syrthio i waradwydd, ac i fagl diafol. Rhaid i’r diaconiaid yr un ffunud fod yn onest; nid yn ddaueiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budrelwa; Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur. 10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf; yna gwasanaethant swydd diaconiaid, os byddant ddiargyhoedd. 11 Y mae’n rhaid i’w gwragedd yr un modd fod yn onest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth. 12 Bydded y diaconiaid yn wŷr un wraig, yn llywodraethu eu plant a’u tai eu hunain yn dda. 13 Canys y rhai a wasanaethant swydd diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. 14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu hysgrifennu atat, gan obeithio dyfod atat ar fyrder: 15 Ond os tariaf yn hir, fel y gwypech pa fodd y mae’n rhaid iti ymddwyn yn nhŷ Dduw, yr hwn yw eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd. 16 Ac yn ddi‐ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb; Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Ysbryd, a welwyd gan angylion, a bregethwyd i’r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymerwyd i fyny mewn gogoniant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.