Old/New Testament
62 Er mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. 2 A’r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a’r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr Arglwydd. 3 Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw. 4 Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a’th dir, Beula: canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi, a’th dir a briodir. 5 Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy Dduw o’th blegid di. 6 Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd, na ddistewch, 7 Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear. 8 Tyngodd yr Arglwydd i’w ddeheulaw, ac i’w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i’th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano: 9 Eithr y rhai a’i casglant a’i bwytânt, ac a foliannant yr Arglwydd; a’r rhai a’i cynullasant a’i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd.
10 Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digaregwch hi: cyfodwch faner i’r bobloedd. 11 Wele, yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a’i waith o’i flaen. 12 Galwant hwynt hefyd yn Bobl sanctaidd, yn Waredigion yr Arglwydd: tithau a elwir, Yr hon a geisiwyd, Dinas nis gwrthodwyd.
63 Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu. 2 Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf? 3 Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf. 4 Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. 5 Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd. 6 A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr.
7 Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. 8 Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt. 9 Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.
10 Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. 11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? 12 Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol? 13 Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent? 14 Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.
15 Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sêl a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant? 16 Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, Arglwydd, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.
17 Paham, Arglwydd, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ffyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth. 18 Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di. 19 Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.
64 Ona rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, 2 Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! 3 Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. 4 Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O Dduw, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. 5 Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. 6 Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. 7 Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. 8 Ond yn awr, O Arglwydd, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.
9 Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. 10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. 11 Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. 12 A ymateli di, Arglwydd, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?
1 Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith: 2 At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3 Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen, 4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly. 5 Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith: 6 Oddi wrth yr hyn bethau y gŵyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad; 7 Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. 8 Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon; 9 Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd, i’r rhai annuwiol a phechaduriaid, i’r rhai disanctaidd a halogedig, i dad‐leiddiaid a mam‐leiddiaid, i leiddiaid dynion, 10 I buteinwyr, i wryw‐gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus; 11 Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi. 12 Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; 13 Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth. 14 A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. 15 Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i. 16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. 17 Ac i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i’r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 18 Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; 19 Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: 20 O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.