Old/New Testament
56 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Cedwch farn, a gwnewch gyfiawnder: canys fy iachawdwriaeth sydd ar ddyfod, a’m cyfiawnder ar ymddangos. 2 Gwyn ei fyd y dyn a wnelo hyn, a mab y dyn a ymaflo ynddo; gan gadw y Saboth heb ei halogi, a chadw ei law rhag gwneuthur dim drwg.
3 Ac na lefared y dieithrfab, yr hwn a lynodd wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan ddidoli a’m didolodd oddi wrth ei bobl; ac na ddyweded y disbaddedig, Wele fi yn bren crin. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth y rhai disbaddedig, y rhai a gadwant fy Sabothau, ac a ddewisant yr hyn a ewyllysiwyf, ac a ymaflant yn fy nghyfamod i; 5 Ie, rhoddaf iddynt yn fy nhŷ, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched: rhoddaf iddynt enw tragwyddol, yr hwn ni thorrir ymaith. 6 A’r meibion dieithr, y rhai a lynant wrth yr Arglwydd, gan ei wasanaethu ef, a chan garu enw yr Arglwydd, i fod yn weision iddo ef, pob un a gadwo y Saboth heb ei halogi, ac a ymaflo yn fy nghyfamod; 7 Dygaf hwythau hefyd i fynydd fy sancteiddrwydd, a llawenychaf hwynt yn nhŷ fy ngweddi: eu poethoffrymau hefyd a’u hebyrth fyddant gymeradwy ar fy allor: canys fy nhŷ i a elwir yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd. 8 Medd yr Arglwydd Dduw, yr hwn a gasgl wasgaredigion Israel, Eto mi a gasglaf eraill ato ef, gyda’r rhai sydd wedi eu casglu ato.
9 Pob bwystfil y maes, deuwch i ddifa, a phob bwystfil yn y coed. 10 Deillion yw ei wyliedyddion: ni wyddant hwy oll ddim, cŵn mudion ydynt hwy oll, heb fedru cyfarth; yn cysgu, yn gorwedd, ac yn caru hepian. 11 Ie, cŵn gwancus ydynt, ni chydnabyddant â’u digon, a bugeiliaid ydynt ni fedrant ddeall; wynebant oll ar eu ffordd eu hun, pob un at ei elw ei hun o’i gwr. 12 Deuwch, meddant, cyrchaf win, ac ymlanwn o ddiod gref; a bydd yfory megis heddiw, a mwy o lawer iawn.
57 Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. 2 Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.
3 Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain. 4 Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi? 5 Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau. 6 Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn? 7 Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. 8 Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist. 9 Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern. 10 Ym maint dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist. 11 Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni? 12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.
13 Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd. 14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. 15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. 16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. 17 Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. 18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. 19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a’i hiachâf ef. 20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. 21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.
58 Llefa â’th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob. 2 Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at Dduw.
3 Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion. 4 Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder. 5 Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd? 6 Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau? 7 Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?
8 Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr Arglwydd a’th ddilyn. 9 Yna y gelwi, a’r Arglwydd a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dywedyd oferedd; 10 Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd: 11 A’r Arglwydd a’th arwain yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd. 12 A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.
13 O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr Arglwydd yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun: 14 Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd.
2 Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a’n cydgynulliad ninnau ato ef, 2 Na’ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na’ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos. 3 Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw’r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio’r dyn pechod, mab y golledigaeth; 4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw. 5 Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi? 6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun. 7 Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith. 8 Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha’r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad: 9 Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau, 10 A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig. 11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd: 12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i’r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder. 13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o’r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i’r gwirionedd: 14 I’r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist. 15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni. 16 A’n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a’n Tad, yr hwn a’n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras, 17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a’ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.