Old/New Testament
45 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: 2 Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf: 3 Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. 4 Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.
5 Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: 6 Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall: 7 Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll. 8 Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd‐darddant: myfi yr Arglwydd a’u creais. 9 Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo? 10 Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist? 11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo. 12 Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd. 13 Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw. 15 Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel yr Achubwr! 16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd. 17 Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd. 18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr Arglwydd, ac nid neb amgen. 19 Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.
20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. 21 Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi. 22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall. 23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. 24 Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho. 25 Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.
46 Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diffygiol. 2 Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.
3 Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: 4 Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.
5 I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg? 6 Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant. 7 Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd. 8 Cofiwch hyn, a byddwch wŷr: atgofiwch, droseddwyr. 9 Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math; 10 Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf: 11 Yn galw aderyn o’r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.
12 Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder: 13 Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.
3 Am hynny, gan na allem ymatal yn hwy, ni a welsom yn dda ein gadael ni ein hunain yn Athen; 2 Ac a ddanfonasom Timotheus, ein brawd, a gweinidog Duw, a’n cyd-weithiwr yn efengyl Crist, i’ch cadarnhau chwi, ac i’ch diddanu ynghylch eich ffydd; 3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a wyddoch mai i hyn y’n gosodwyd ni. 4 Canys yn wir pan oeddem gyda chwi, ni a ragddywedasom i chwi y gorthrymid ni; megis y bu, ac y gwyddoch chwi. 5 Oherwydd hyn, minnau, heb allu ymatal yn hwy, a ddanfonais i gael gwybod eich ffydd chwi; rhag darfod i’r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer. 6 Eithr yr awron, wedi dyfod Timotheus atom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a’ch cariad, a bod gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis yr ydym ninnau am eich gweled chwithau; 7 Am hynny y cawsom gysur, frodyr, amdanoch chwi, yn ein holl orthrymder a’n hangenoctid, trwy eich ffydd chwi. 8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd. 9 Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-dalu i Dduw amdanoch chwi, am yr holl lawenydd â’r hwn yr ydym ni yn llawen o’ch achos chwi gerbron ein Duw ni, 10 Gan weddïo mwy na mwy, nos a dydd, ar gael gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi? 11 A Duw ei hun a’n Tad ni, a’n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni atoch chwi. 12 A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch chwanego ym mhob cariad i’ch gilydd, ac i bawb, megis ag yr ydym ninnau i chwi: 13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyhoedd mewn sancteiddrwydd gerbron Duw a’n Tad, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyda’i holl saint.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.