Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 23-25

23 Baich Tyrus. Llongau Tarsis, udwch: canys anrheithiwyd hi, fel nad oes na thŷ, na chyntedd: o dir Chittim y datguddiwyd iddynt. Distewch, drigolion yr ynys, yr hon y mae marchnadyddion Sidon, y rhai sydd yn tramwy y môr, yn dy lenwi. Ac wrth ddyfroedd lawer, had Sihor, cynhaeaf yr afon yw ei chnwd hi: felly marchnadfa cenhedloedd yw hi. Cywilyddia, Sidon; canys y môr, ie, cryfder y môr, a lefarodd, gan ddywedyd, Nid ymddygais, ac nid esgorais, ni fegais wŷr ieuainc chwaith, ac ni feithrinais forynion. Megis wrth glywed sôn am yr Eifftiaid, yr ymofidiant wrth glywed sôn am Tyrus. Ewch trosodd i Tarsis; udwch, breswylyr yr ynys. Ai hon yw eich dinas lawen chwi, yr hon y mae ei hynafiaeth er y dyddiau gynt? ei thraed a’i dygant hi i ymdaith i bell. Pwy a gynghorodd hyn yn erbyn Tyrus goronog, yr hon yr ydoedd ei marchnatawyr yn dywysogion, a’r marsiandwyr yn bendefigion y ddaear? Arglwydd y lluoedd a fwriadodd hyn, i ddifwyno balchder pob gogoniant, ac i ddirmygu holl bendefigion y ddaear. 10 Dos trwy dy wlad fel afon, O ferch Tarsis: nid oes nerth mwyach. 11 Estynnodd ei law ar y môr, dychrynodd y teyrnasoedd; gorchmynnodd yr Arglwydd am ddinas y farsiandïaeth, ddinistrio ei chadernid. 12 Ac efe a ddywedodd, Ni chei orfoleddu mwyach, yr orthrymedig forwyn, merch Sidon; cyfod, dos i Chittim; yno chwaith ni bydd i ti lonyddwch. 13 Wele dir y Caldeaid; nid oedd y bobl hyn, nes i Assur ei sylfaenu hi i drigolion yr anialwch: dyrchafasant ei thyrau, cyfodasant ei phalasau; ac efe a’i tynnodd hi i lawr. 14 Llongau Tarsis, udwch; canys anrheithiwyd eich nerth. 15 A’r dydd hwnnw yr anghofir Tyrus ddeng mlynedd a thrigain, megis dyddiau un brenin: ymhen y deng mlynedd a thrigain y cân Tyrus megis putain. 16 Cymer y delyn, amgylchyna y ddinas, ti butain anghofiedig: cân gerdd yn dda: cân lawer fel y’th gofier.

17 Ac ymhen y deng mlynedd a thrigain yr Arglwydd a ymwêl â Thyrus, a hi a ddychwel at ei helw, ac a buteinia â holl deyrnasoedd y byd ar wyneb y ddaear. 18 Yna y bydd ei marchnad a’i helw yn sancteiddrwydd i’r Arglwydd: ni thrysorir ac nis cedwir: canys eiddo y rhai a drigant o flaen yr Arglwydd fydd ei marsiandïaeth, i fwyta yn ddigonol, ac yn ddillad parhaus.

24 Wele yr Arglwydd yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi ac a wasgar ei thrigolion. Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad, i’r gwas ac i’w feistr, i’r llawforwyn ac i’w meistres, i’r prynydd ac i’r gwerthydd, i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn, i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo. Gan wacáu y gwacéir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr Arglwydd a lefarodd y gair hwn. Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear. Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol. Am hynny melltith a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd. Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant. Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn. Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant. 10 Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn. 11 Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, hyfrydwch y tir a fudodd ymaith. 12 Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth.

13 Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin. 14 Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr Arglwydd, bloeddiant o’r môr. 15 Am hynny gogoneddwch yr Arglwydd yn y dyffrynnoedd, enw Arglwydd Dduw Israel yn ynysoedd y môr.

16 O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i’r cyfiawn. A dywedais, O fy nghulni, O fy nghulni, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf. 17 Dychryn, a ffos, a magl fydd arnat ti, breswylydd y ddaear. 18 A’r hwn a ffy rhag trwst y dychryn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagl: oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd, a seiliau y ddaear sydd yn crynu. 19 Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsymudodd y ddaear. 20 Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigla megis bwth; a’i chamwedd fydd drwm arni; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy. 21 Yr amser hwnnw yr ymwêl yr Arglwydd â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac â brenhinoedd y ddaear ar y ddaear. 22 A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir â hwynt. 23 Yna y lleuad a wrida, a’r haul a gywilyddia, pan deyrnaso Arglwydd y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalem, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.

25 O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda: Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw‐win; o basgedigion breision, a gloyw‐win puredig. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a’i llefarodd.

A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr Arglwydd; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen. 11 Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo. 12 Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.

Philipiaid 1

Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist. A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; 10 Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; 11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw. 12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi wybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod ohonynt yn hytrach er llwyddiant i’r efengyl; 13 Yn gymaint â bod fy rhwymau i yng Nghrist yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhob lle arall; 14 Ac i lawer o’r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrth fy rhwymau i, a bod yn hyach o lawer i draethu’r gair yn ddi‐ofn. 15 Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. 16 Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: 17 A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. 18 Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf. 19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iachawdwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynhorthwy Ysbryd Iesu Grist, 20 Yn ôl fy awyddfryd a’m gobaith, na’m gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth. 21 Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. 22 Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. 23 Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. 24 Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. 25 A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd‐drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; 26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. 27 Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl; 28 Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. 29 Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; 30 Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.