Old/New Testament
7 A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfod o Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia, brenin Israel, i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu. 2 A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A’i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt. 3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear‐jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr: 4 A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia: 5 Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd, 6 Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal. 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn. 8 Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl. 9 Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
10 A’r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd, 11 Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o’r dyfnder, neu o’r uchelder oddi arnodd. 12 Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd. 13 A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? 14 Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. 15 Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da. 16 Canys cyn medru o’r bachgen ymwrthod â’r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.
17 Yr Arglwydd a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria. 18 A bydd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria: 19 A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll. 20 Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â’r ellyn a gyflogir, sef â’r rhai o’r tu hwnt i’r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a’r farf hefyd a ddifa efe. 21 A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner‐fuwch, a dwy ddafad: 22 Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir. 23 A bydd y dydd hwnnw, fod pob lle yr hwn y bu ynddo fil o winwydd er mil o arian bathol, yn fieri ac yn ddrain y bydd. 24 Â saethau ac â bwâu y daw yno: canys yn fieri ac yn ddrain y bydd yr holl wlad. 25 Eithr yr holl fynyddoedd y rhai a geibir â cheibiau, ni ddaw yno ofn mieri na drain: ond bydd yn hebryngfa gwartheg, ac yn sathrfa defaid.
8 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni â phin dyn, am Maher‐shalal‐has‐bas. 2 A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia. 3 A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Galw ei enw ef, Maher‐shalal‐has‐bas. 4 Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, neu, Fy mam, golud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria.
5 A chwanegodd yr Arglwydd lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, 6 Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia: 7 Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogoniant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. 8 Ie, trwy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a â drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel.
9 Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir. 10 Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni.
11 Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf â llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, 12 Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. 13 Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi: 14 Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagl ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem. 15 A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir. 16 Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion. 17 A minnau a ddisgwyliaf am yr Arglwydd sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dŷ Jacob, ac a wyliaf amdano. 18 Wele fi a’r plant a roddes yr Arglwydd i mi, yn arwyddion ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion.
19 A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch â’r swynyddion, ac â’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid â’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? 20 At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt. 21 A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny. 22 A hwy a edrychant ar y ddaear; ac wele drallod a thywyllwch, niwl cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.
2 A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau; 2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd‐dod; 3 Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a’r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill. 4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni, 5 Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a’n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;) 6 Ac a’n cydgyfododd, ac a’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu: 7 Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu. 8 Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: 9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. 10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt. 11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd; 12 Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau’r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd: 13 Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist. 14 Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni: 15 Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai’r ddau ynddo’i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch; 16 Ac fel y cymodai’r ddau â Duw yn un corff trwy’r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi. 17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi’r rhai pell, ac i’r rhai agos. 18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad. 19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd‐ddinasyddion â’r saint, ac yn deulu Duw; 20 Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen; 21 Yn yr hwn y mae’r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylltu, yn cynyddu’n deml sanctaidd yn yr Arglwydd: 22 Yn yr hwn y’ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy’r Ysbryd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.