Old/New Testament
3 Canys wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a’r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr, 2 Y cadarn, a’r rhyfelwr, y brawdwr, a’r proffwyd, y synhwyrol, a’r henwr, 3 Y tywysog deg a deugain, a’r anrhydeddus, a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr huawdl. 4 A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt. 5 A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa. 6 Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di: 7 Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl. 8 Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
9 Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a’u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain. 10 Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt. 11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.
12 Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant. 13 Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bobloedd. 14 Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai. 15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
16 A’r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â’u traed: 17 Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion; a’r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt. 18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd, 19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau, 20 Y penguwch, ac addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau, 21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn, 22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau, 23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau. 24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch. 25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel. 26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
4 Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni. 2 Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr Arglwydd yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel. 3 A bydd, am yr hwn a adewir yn Seion, ac a weddillir yn Jerwsalem, y dywedir wrtho, O sanct; sef pob un a’r a ysgrifennwyd ymhlith y rhai byw yn Jerwsalem: 4 Pan ddarffo i’r Arglwydd olchi budreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o’i chanol, mewn ysbryd barn, ac mewn ysbryd llosgfa. 5 A’r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn. 6 A phabell fydd yn gysgod y dydd rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag glaw.
6 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau. 2 Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist. 3 Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. 4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. 5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun. 6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â’r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da. 7 Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe. 8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i’w gnawd ei hun, o’r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i’r Ysbryd, o’r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol. 9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn. 10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai sydd o deulu’r ffydd. 11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â’m llaw fy hun. 12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i’ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist. 13 Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. 14 Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. 15 Canys yng Nghrist Iesu ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. 16 A chynifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. 17 O hyn allan na flined neb fi: canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff nodau’r Arglwydd Iesu. 18 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda’ch ysbryd chwi, frodyr. Amen.
At y Galatiaid yr ysgrifennwyd o Rufain.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.