Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 1-2

Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr Arglwydd a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn. Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall. O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr Arglwydd, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!

I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg. O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwelïau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew. Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef. Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig. Oni buasai i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra. 11 Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr Arglwydd: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt. 12 Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau? 13 Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl‐darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod. 14 Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn. 15 A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.

16 Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg; 17 Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw. 18 Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân. 19 Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch. 20 Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y’ch ysir: canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd.

21 Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid. 22 Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr: 23 Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt. 24 Am hynny medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, cadarn Dduw Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.

25 A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam. 26 Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon. 27 Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.

28 A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r Arglwydd, a ddifethir. 29 Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch. 30 Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi. 31 A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.

Y Gair yr hwn a welodd Eseia mab Amos, am Jwda a Jerwsalem. A bydd yn y dyddiau diwethaf, fod mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei baratoi ym mhen y mynyddoedd, ac yn ddyrchafedig goruwch y bryniau; a’r holl genhedloedd a ddylifant ato. A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob; ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. Tŷ Jacob, deuwch, a rhodiwn yng ngoleuni yr Arglwydd.

Am hynny y gwrthodaist dy bobl, tŷ Jacob, am eu bod wedi eu llenwi allan o’r dwyrain, a’u bod yn swynwyr megis y Philistiaid, ac mewn plant dieithriaid yr ymfodlonant. A’u tir sydd gyflawn o arian ac aur, ac nid oes diben ar eu trysorau; a’u tir sydd lawn o feirch, ac nid oes diben ar eu cerbydau. Eu tir hefyd sydd lawn o eilunod; i waith eu dwylo eu hun yr ymgrymant, i’r hyn a wnaeth eu bysedd eu hun: A’r gwrêng sydd yn ymgrymu, a’r bonheddig yn ymostwng: am hynny na faddau iddynt.

10 Dos i’r graig, ac ymgûdd yn y llwch, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef. 11 Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 12 Canys dydd Arglwydd y lluoedd fydd ar bob balch ac uchel, ac ar bob dyrchafedig; ac efe a ostyngir: 13 Ac ar holl uchel a dyrchafedig gedrwydd Libanus, ac ar holl dderw Basan, 14 Ac ar yr holl fynyddoedd uchel, ac ar yr holl fryniau dyrchafedig, 15 Ac ar bob tŵr uchel, ac ar bob magwyr gadarn, 16 Ac ar holl longau Tarsis, ac ar yr holl luniau dymunol. 17 Yna yr iselir uchelder dyn, ac y gostyngir uchder dynion: a’r Arglwydd yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw. 18 A’r eilunod a fwrw efe ymaith yn hollol. 19 A hwy a ânt i dyllau y creigiau, ac i ogofau llychlyd, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 20 Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod: 21 I fyned i agennau y creigiau, ac i gopâu y clogwyni, rhag ofn yr Arglwydd, a rhag gogoniant ei fawredd ef, pan gyfodo efe i gynhyrfu y ddaear. 22 Peidiwch chwithau â’r dyn yr hwn sydd â’i anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif ohono?

Galatiaid 5

Sefwch gan hynny yn y rhyddid â’r hwn y rhyddhaodd Crist ni; ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed. Wele, myfi Paul wyf yn dywedyd wrthych, Os enwaedir chwi, ni lesâ Crist ddim i chwi. Ac yr wyf yn tystiolaethu drachefn i bob dyn a’r a enwaedir, ei fod ef yn ddyledwr i gadw yr holl ddeddf. Chwi a aethoch yn ddi‐fudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y ddeddf: chwi a syrthiasoch ymaith oddi wrth ras. Canys nyni yn yr Ysbryd trwy ffydd ydym yn disgwyl gobaith cyfiawnder. Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad. Chwi a redasoch yn dda; pwy a’ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd? Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi. Y mae ychydig lefain yn lefeinio’r holl does. 10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo. 11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y’m herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes. 12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch. 13 Canys i ryddid y’ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i’r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd. 14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun. 15 Ond os cnoi a thraflyncu eich gilydd yr ydych, gwyliwch na ddifether chwi gan eich gilydd. 16 Ac yr wyf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Ysbryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd. 17 Canys y mae’r cnawd yn chwenychu yn erbyn yr Ysbryd, a’r Ysbryd yn erbyn y cnawd: a’r rhai hyn a wrthwynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch. 18 Ond os gan yr Ysbryd y’ch arweinir, nid ydych dan y ddeddf. 19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, 20 Delw‐addoliaeth, swyn‐gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, 21 Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. 22 Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest: 23 Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. 24 A’r rhai sydd yn eiddo Crist, a groeshoeliasant y cnawd, â’i wyniau a’i chwantau. 25 Os byw yr ydym yn yr Ysbryd, rhodiwn hefyd yn yr Ysbryd. 26 Na fyddwn wag‐ogoneddgar, gan ymannog ein gilydd, gan ymgenfigennu wrth ein gilydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.