Old/New Testament
6 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi. 2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili. 3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog. 5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead. 6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg. 7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. 8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi. 9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.
10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog? 11 Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau. 12 Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib. 13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.
7 Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint. 2 Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili. 3 Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid. 4 Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Beth‐rabbim; dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus. 5 Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd. 6 Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch! 7 Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau. 8 Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau; 9 A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
10 Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef. 11 Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi. 12 Boregodwn i’r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti. 13 Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.
8 O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y’th gawn allan, cusanwn di; eto ni’m dirmygid. 2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a’m dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau. 3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a’i law ddeau a’m cofleidiai. 4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun. 5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y’th gyfodais: yno y’th esgorodd dy fam; yno y’th esgorodd yr hon a’th ymddûg.
6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt. 7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.
8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i’n chwaer y dydd y dyweder amdani? 9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a’i caewn hi ag ystyllod cedrwydd. 10 Caer ydwyf fi, a’m bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd. 11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian. 12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i’r rhai a gadwant ei ffrwyth hi. 13 O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.
14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.
4 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; 2 Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. 3 Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd: 4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; 5 Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. 6 Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. 7 Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist. 8 Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. 9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? 10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. 11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. 12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam. 13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. 14 A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu. 15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. 16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? 17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. 18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. 19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; 20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch. 21 Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf? 22 Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd. 23 Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid. 24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: 25 Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant. 26 Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. 27 Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr. 28 A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid. 29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd. 30 Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. 31 Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.