Old/New Testament
1 Can y caniadau, eiddo Solomon. 2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. 3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. 4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu. 5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon. 6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais. 7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. 9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd. 10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni. 11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl. 13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos. 14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi. 15 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod. 16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd. 17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd.
2 Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi. 2 Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched. 3 Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau. 4 Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad. 5 Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad. 6 Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio. 7 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. 9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt. 10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth: 11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith; 12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad; 13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd â’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
14 Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd. 15 Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.
16 Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili. 17 Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.
3 Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais. 2 Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a’r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais. 3 Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a’m cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid? 4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a’m hymddûg. 5 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
6 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o’r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari? 7 Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o’i amgylch, sef o gedyrn Israel. 8 Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â’i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos. 9 Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus. 10 Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem. 11 Ewch allan, merched Seion, ac edrychwch ar y brenin Solomon yn y goron â’r hon y coronodd ei fam ef yn ei ddydd dyweddi ef, ac yn nydd llawenydd ei galon ef.
2 Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi. 2 Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg. 3 Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno: 4 A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni: 5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi. 6 A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi: 7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr: 8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:) 9 A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau‐ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. 10 Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur. 11 A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio. 12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad. 13 A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy. 14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd? 15 Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid, 16 Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf. 17 Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw. 18 Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr. 19 Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw. 20 Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi. 21 Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.