Old/New Testament
7 Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.
2 Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a’r byw a’i gesyd at ei galon. 3 Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon. 4 Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd. 5 Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid. 6 Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.
7 Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon. 8 Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd. 9 Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid. 10 Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.
11 Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul. 12 Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog. 13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe? 14 Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef. 15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni. 16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y’th ddifethit dy hun? 17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser? 18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll. 19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas. 20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha. 21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio. 22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.
23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf. 24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a’i caiff? 25 Mi a droais â’m calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd: 26 Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a’i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi. 27 Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o’r naill beth i’r llall, i gael y rheswm; 28 Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais. 29 Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.
8 Pwy sydd debyg i’r doeth? a phwy a fedr ddeongl peth? doethineb gŵr a lewyrcha ei wyneb, a nerth ei wyneb ef a newidir. 2 Yr ydwyf yn dy rybuddio i gadw gorchymyn y brenin, a hynny oherwydd llw Duw. 3 Na ddos ar frys allan o’i olwg ef; na saf mewn peth drwg: canys efe a wna a fynno ei hun. 4 Lle y byddo gair y brenin, y mae gallu: a phwy a ddywed wrtho, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur? 5 Y neb a gadwo y gorchymyn, ni wybydd oddi wrth ddrwg; a chalon y doeth a edwyn amser a barn.
6 Canys y mae amser a barn i bob amcan; ac y mae trueni dyn yn fawr arno. 7 Canys ni ŵyr efe beth a fydd: canys pwy a ddengys iddo pa bryd y bydd? 8 Nid oes un dyn yn arglwyddiaethu ar yr ysbryd, i atal yr ysbryd; ac nid oes ganddo allu yn nydd marwolaeth: ac nid oes bwrw arfau yn y rhyfel hwnnw; ac nid achub annuwioldeb ei pherchennog. 9 Hyn oll a welais i, a gosodais fy nghalon ar bob gorchwyl a wneir dan haul: y mae amser pan arglwyddiaetha dyn ar ddyn er drwg iddo. 10 Ac felly mi a welais gladdu y rhai annuwiol, y rhai a ddaethent ac a aethent o le y Sanctaidd; a hwy a ebargofiwyd yn y ddinas lle y gwnaethent felly. Gwagedd yw hyn hefyd. 11 Oherwydd na wneir barn yn erbyn gweithred ddrwg yn fuan, am hynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drwg.
12 Er gwneuthur o bechadur ddrwg ganwaith, ac estyn ei ddyddiau ef; eto mi a wn yn ddiau y bydd daioni i’r rhai a ofnant Dduw, y rhai a arswydant ger ei fron ef. 13 Ond ni bydd daioni i’r annuwiol, ac ni estyn efe ei ddyddiau, y rhai sydd gyffelyb i gysgod; am nad yw yn ofni gerbron Duw. 14 Y mae gwagedd a wneir ar y ddaear; bod y cyfiawn yn damwain iddynt yn ôl gwaith y drygionus; a bod y drygionus yn digwyddo iddynt yn ôl gwaith y cyfiawn. Mi a ddywedais fod hyn hefyd yn wagedd. 15 Yna mi a ganmolais lawenydd, am nad oes dim well i ddyn dan haul, na bwyta ac yfed, a bod yn llawen: canys hynny a lŷn wrth ddyn o’i lafur, ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo dan yr haul.
16 Pan osodais i fy nghalon i wybod doethineb, ac i edrych ar y drafferth a wneir ar y ddaear, (canys y mae ni wêl hun â’i lygaid na dydd na nos;) 17 Yna mi a edrychais ar holl waith Duw, na ddichon dyn ddeall y gwaith a wneir dan haul: oblegid er i ddyn lafurio i geisio, eto nis caiff; ie, pe meddyliai y doeth fynnu gwybod, eto ni allai efe gael hynny.
9 Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen. 2 Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol; i’r da ac i’r glân, ac i’r aflan; i’r neb a abertha, ac i’r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a’r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu. 3 Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.
4 Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw. 5 Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd. 6 Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.
7 Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd. 8 Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben. 9 Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul. 10 Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.
11 Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll. 12 Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.
13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi: 14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn: 15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw. 16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef. 17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid. 18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
13 Y drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod atoch. Yng ngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair. 2 Rhagddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd fel pe bawn yn bresennol yr ail waith, ac yn absennol yr awron yr ydwyf yn ysgrifennu at y rhai a bechasant eisoes, ac at y lleill i gyd, os deuaf drachefn, nad arbedaf: 3 Gan eich bod yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tuag atoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi. 4 Canys er ei groeshoelio ef o ran gwendid, eto byw ydyw trwy nerth Duw: canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gydag ef trwy nerth Duw tuag atoch chwi. 5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Onid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Iesu Grist ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymeradwy? 6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymeradwy. 7 Ac yr wyf yn gweddïo ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg; nid fel yr ymddangosom ni yn gymeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bod ohonom ni megis rhai anghymeradwy. 8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond dros y gwirionedd. 9 Canys llawen ydym pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion: a hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, sef eich perffeithrwydd chwi. 10 Am hynny myfi yn absennol ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roddes yr Arglwydd i mi er adeilad, ac nid er dinistr. 11 Bellach, frodyr, byddwch wych. Byddwch berffaith, diddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw’r cariad a’r heddwch a fydd gyda chwi. 12 Anerchwch eich gilydd â chusan sanctaidd. Y mae’r holl saint yn eich annerch chwi. 13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Ysbryd Glân, a fyddo gyda chwi oll. Amen.
Yr ail at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi ym Macedonia, gyda Thitus a Luc.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.