Old/New Testament
1 Geiriau y Pregethwr, mab Dafydd, brenin yn Jerwsalem. 2 Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr, gwagedd o wagedd; gwagedd yw y cwbl. 3 Pa fudd sydd i ddyn o’i holl lafur a gymer efe dan yr haul? 4 Un genhedlaeth a â ymaith, a chenhedlaeth arall a ddaw: ond y ddaear a saif byth. 5 Yr haul hefyd a gyfyd, a’r haul a fachlud, ac a brysura i’w le lle y mae yn codi. 6 Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd. 7 Yr holl afonydd a redant i’r môr, eto nid yw y môr yn llawn: o’r lle y daeth yr afonydd, yno y dychwelant eilwaith. 8 Pob peth sydd yn llawn blinder; ni ddichon dyn ei draethu: ni chaiff y llygad ddigon o edrych, ac ni ddigonir y glust â chlywed. 9 Y peth a fu, a fydd; a’r peth a wnaed, a wneir: ac nid oes dim newydd dan yr haul. 10 A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe fu eisoes yn yr hen amser o’n blaen ni. 11 Nid oes goffa am y pethau gynt; ac ni bydd coffa am y pethau a ddaw, gan y rhai a ddaw ar ôl.
12 Myfi y Pregethwr oeddwn frenin ar Israel yn Jerwsalem; 13 Ac a roddais fy mryd ar geisio a chwilio trwy ddoethineb, am bob peth a wnaed dan y nefoedd: y llafur blin yma a roddes Duw ar feibion dynion i ymguro ynddo. 14 Mi a welais yr holl weithredoedd a wnaed dan haul; ac wele, gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl. 15 Ni ellir unioni yr hyn sydd gam, na chyfrif yr hyn sydd ddiffygiol. 16 Mi a ymddiddenais â’m calon fy hun, gan ddywedyd, Wele, mi a euthum yn fawr, ac a gesglais ddoethineb tu hwnt i bawb a fu o’m blaen i yn Jerwsalem; a’m calon a ddeallodd lawer o ddoethineb a gwybodaeth. 17 Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb, ac i wybod ynfydrwydd a ffolineb: mi a wybûm fod hyn hefyd yn orthrymder ysbryd. 18 Canys mewn llawer o ddoethineb y mae llawer o ddig: a’r neb a chwanego wybodaeth, a chwanega ofid.
2 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a’th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd. 2 Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna? 3 Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd. 4 Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd: 5 Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth: 6 Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed: 7 Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: 8 Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion. 9 A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o’m blaen i yn Jerwsalem: a’m doethineb oedd yn sefyll gyda mi. 10 A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o’m holl lafur. 11 Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul. 12 A mi a droais i edrych ar ddoethineb, ac ar ynfydrwydd a ffolineb: canys beth a wnâi y dyn a ddeuai ar ôl y brenin? y peth a wnaed eisoes. 13 Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch. 14 Y doeth sydd â’i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll. 15 Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i’r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd. 16 Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth. 17 Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.
18 Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i’r neb a fydd ar fy ôl i. 19 A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd. 20 Am hynny mi a droais i beri i’m calon anobeithio o’r holl lafur a gymerais dan yr haul. 21 Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i’r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr. 22 Canys beth sydd i ddyn o’i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul? 23 Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a’i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.
24 Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i’w enaid gael daioni o’i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn. 25 Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a’i mwynhâi, o’m blaen i? 26 Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.
3 Y mae amser i bob peth, ac amser i bob amcan dan y nefoedd: 2 Amser i eni, ac amser i farw; amser i blannu, ac amser i dynnu y peth a blannwyd; 3 Amser i ladd, ac amser i iacháu; amser i fwrw i lawr, ac amser i adeiladu; 4 Amser i wylo, ac amser i chwerthin; amser i alaru, ac amser i ddawnsio; 5 Amser i daflu cerrig ymaith, ac amser i gasglu cerrig ynghyd; amser i ymgofleidio, ac amser i ochel ymgofleidio; 6 Amser i geisio, ac amser i golli; amser i gadw, ac amser i fwrw ymaith; 7 Amser i rwygo, ac amser i wnïo; amser i dewi, ac amser i ddywedyd; 8 Amser i garu, ac amser i gasáu; amser i ryfel, ac amser i heddwch. 9 Pa fudd sydd i’r gweithydd yn yr hyn y mae yn llafurio? 10 Mi a welais y blinder a roddes Duw ar feibion dynion, i ymflino ynddo. 11 Efe a wnaeth bob peth yn deg yn ei amser: efe a osododd y byd hefyd yn eu calonnau hwy, fel na allo dyn gael allan y gwaith a wnaeth Duw o’r dechreuad hyd y diwedd. 12 Mi a wn nad oes dim da ynddynt, ond bod i ddyn fod yn llawen, a gwneuthur daioni yn ei fywyd. 13 A bod i bob dyn fwyta ac yfed, a mwynhau daioni o’i holl lafur; rhodd Duw yw hynny. 14 Mi a wn beth bynnag a wnêl Duw, y bydd hynny byth; ni ellir na bwrw ato, na thynnu dim oddi wrtho: ac y mae Duw yn gwneuthur hyn, fel yr ofnai dynion ger ei fron ef. 15 Y peth a fu o’r blaen sydd yr awr hon; a’r peth sydd ar ddyfod a fu o’r blaen: Duw ei hun a ofyn y peth a aeth heibio. 16 Hefyd mi a welais dan yr haul le barn, yno yr oedd annuwioldeb; a lle cyfiawnder, yno yr oedd anwiredd. 17 Mi a ddywedais yn fy nghalon, Duw a farn y cyfiawn a’r anghyfiawn: canys y mae amser i bob amcan, ac i bob gwaith yno. 18 Mi a ddywedais yn fy nghalon am gyflwr meibion dynion; fel y byddai i Dduw eu hamlygu hwynt, ac y gwelent hwythau mai anifeiliaid ydynt. 19 Canys digwydd meibion dynion a ddigwydd i’r anifeiliaid; yr un digwydd sydd iddynt: fel y mae y naill yn marw, felly y bydd marw y llall; ie, yr un chwythad sydd iddynt oll; fel nad oes mwy rhagoriaeth i ddyn nag i anifail: canys gwagedd yw y cwbl. 20 Y mae y cwbl yn myned i’r un lle: pob un sydd o’r pridd, a phob un a dry i’r pridd eilwaith. 21 Pwy a edwyn ysbryd dyn, yr hwn sydd yn esgyn i fyny, a chwythad anifail, yr hwn sydd yn disgyn i waered i’r ddaear? 22 Am hynny mi a welaf nad oes dim well nag i ddyn ymlawenychu yn ei weithredoedd ei hun; canys hyn yw ei ran ef: canys pwy a’i dwg ef i weled y peth fydd ar ei ôl?
16 Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig. 17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. 18 Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd. 19 Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol. 20 Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i’ch caethiwo, os bydd un i’ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb. 21 Am amarch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae neb yn hy, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd,) hy wyf finnau hefyd. 22 Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau. 23 Ai gweinidogion Crist ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl,) mwy wyf fi; mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. 24 Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un. 25 Tair gwaith y’m curwyd â gwiail; unwaith y’m llabyddiwyd; teirgwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bûm yn y dyfnfor; 26 Mewn teithiau yn fynych; ym mheryglon llifddyfroedd; ym mheryglon lladron; ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ymhlith brodyr gau: 27 Mewn llafur a lludded; mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn annwyd a noethni. 28 Heblaw’r pethau sydd yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi. 29 Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi? 30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i’m gwendid. 31 Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd. 32 Yn Namascus, y llywydd dan Aretus y brenin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i: 33 A thrwy ffenestr mewn basged y’m gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o’i ddwylo ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.