Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Diarhebion 19-21

19 Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffôl. Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; a’r hwn sydd brysur ei draed a becha. Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr Arglwydd. Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeillion: ond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog. Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc. Llawer a ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael. Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef: pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato. A gaffo ddoethineb a gâr ei enaid: a gadwo ddeall a ennill ddaioni. Tyst celwyddog ni bydd dieuog; a thraethwr celwyddau a ddifethir. 10 Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid. 11 Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned dros gamwedd. 12 Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt. 13 Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus. 14 Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr Arglwydd yw gwraig bwyllog. 15 Syrthni a bair drymgwsg: ac enaid twyllodrus a newyna. 16 Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeulusa ei ffyrdd fydd farw. 17 Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r Arglwydd; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn. 18 Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha. 19 Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn. 20 Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd. 21 Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr Arglwydd, hwnnw a saif. 22 Deisyfiad dyn yw ei drugaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog. 23 Ofn yr Arglwydd a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef. 24 Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau. 25 Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth. 26 Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr. 27 Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth. 28 Tyst y fall a watwar farn: a genau y drygionus a lwnc anwiredd. 29 Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.

20 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? 10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau. 11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. 12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau. 13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. 14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. 15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. 16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. 17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. 18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. 19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. 20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. 21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. 22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a’th achub. 23 Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. 24 Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? 25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. 26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. 27 Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. 28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. 29 Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. 30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.

21 Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr Arglwydd: efe a’i try hi lle y mynno. Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa y calonnau. Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr Arglwydd nag aberth. Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod. Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig. Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau. Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn. Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith. Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 10 Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg: nid grasol yw ei gymydog yn ei olwg ef. 11 Pan gosber gwatwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyn wybodaeth. 12 Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae Duw yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni. 13 Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef. 14 Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf. 15 Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd. 16 Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw. 17 Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog. 18 Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn. 19 Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda gwraig anynad ddicllon. 20 Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt. 21 Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd. 22 Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno. 23 Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder. 24 Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch. 25 Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio: 26 Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed. 27 Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg? 28 Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad. 29 Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd. 30 Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr Arglwydd. 31 Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr Arglwydd.

2 Corinthiaid 7

Am hynny gan fod gennym yr addewidion hyn, anwylyd, ymlanhawn oddi wrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Derbyniwch ni. Ni wnaethom gam i neb; ni lygrasom neb; nid ysbeiliasom neb. Nid i’ch condemnio yr wyf yn dywedyd: canys mi a ddywedais o’r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyda chwi. Y mae hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. Y mae gennyf orfoledd mawr o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd; eithr ym mhob peth cystuddiedig fuom: oddi allan yr oedd ymladdau, oddi fewn ofnau. Eithr Duw, yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a’n diddanodd ni wrth ddyfodiad Titus. Ac nid yn unig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â’r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich sêl tuag ataf fi; fel y llawenheais i yn fwy. Canys er i mi eich tristáu chwi mewn llythyr, nid yw edifar gennyf, er bod yn edifar gennyf; canys yr wyf yn gweled dristáu o’r llythyr hwnnw chwi, er nad oedd ond dros amser. Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristáu chwi, ond am eich tristáu i edifeirwch: canys tristáu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni. 10 Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iachawdwriaeth ni bydd edifeirwch ohoni: eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angau. 11 Canys wele hyn yma, eich tristáu chwi yn dduwiol, pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch, ie, pa amddiffyn, ie, pa soriant, ie, pa ofn, ie, pa awyddfryd, ie, pa sêl, ie, pa ddial! Ym mhob peth y dangosasoch eich bod yn bur yn y peth hwn. 12 Oherwydd paham, er ysgrifennu ohonof atoch, nid ysgrifennais o’i blegid ef a wnaethai’r cam, nac oblegid yr hwn a gawsai gam, ond er mwyn bod yn eglur i chwi ein gofal drosoch gerbron Duw. 13 Am hynny nyni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwytháu ar ei ysbryd ef gennych chwi oll. 14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef amdanoch, ni’m cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bost ni, yr hwn a fu wrth Titus. 15 Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef. 16 Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.