Old/New Testament
16 Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr Arglwydd y mae. 2 Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion. 3 Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd, a’th feddyliau a safant. 4 Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. 5 Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. 6 Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg. 7 Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. 8 Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. 9 Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef. 10 Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. 11 Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. 12 Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. 13 Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. 14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. 15 Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. 16 Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian. 17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. 18 Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. 19 Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. 20 A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, O gwyn ei fyd hwnnw! 21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. 22 Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. 23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. 24 Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. 25 Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. 26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. 27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. 28 Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. 29 Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. 30 Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. 31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. 32 Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. 33 Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.
17 Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson. 2 Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr. 3 Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd. 4 Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg. 5 Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog. 6 Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau. 7 Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog. 8 Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna. 9 Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion. 10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith. 11 Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef. 12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb. 13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef. 14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni. 15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau. 16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo? 17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi. 18 Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill. 19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed. 20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg. 21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd. 22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn. 23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn. 24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd. 25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam. 26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn. 27 Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd. 28 Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.
18 Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth. 2 Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun. 3 Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd. 4 Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo. 5 Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn. 6 Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau. 7 Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid. 8 Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol. 9 Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar. 10 Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. 11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun. 12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd. 13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo. 14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd? 15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth. 16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid. 17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef. 18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn. 19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell. 20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef. 21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef. 22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd. 23 Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin. 24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.
6 A ninnau, gan gydweithio, ydym yn atolwg i chwi, na dderbynioch ras Duw yn ofer: 2 (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymeradwy y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais: wele, yn awr yr amser cymeradwy; wele, yn awr ddydd yr iachawdwriaeth.) 3 Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth: 4 Eithr gan ein dangos ein hunain ym mhob peth fel gweinidogion Duw, mewn amynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, 5 Mewn gwialenodiau, mewn carcharau, mewn terfysgau, mewn poenau, mewn gwyliadwriaethau, mewn ymprydiau, 6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hirymaros, mewn tiriondeb, yn yr Ysbryd Glân, mewn cariad diragrith, 7 Yng ngair gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder ar ddeau ac ar aswy, 8 Trwy barch ac amarch, trwy anghlod a chlod: megis twyllwyr, ac er hynny yn eirwir; 9 Megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus; megis yn meirw, ac wele, byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd; 10 Megis wedi ein tristáu, ond yn wastad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer; megis heb ddim gennym, ond eto yn meddiannu pob peth. 11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi, O Gorinthiaid, ein calon ni a ehangwyd. 12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymysgaroedd eich hunain. 13 Ond am yr un tâl, (yr ydwyf yn dywedyd megis wrth fy mhlant,) ehanger chwithau hefyd. 14 Na ieuer chwi yn anghymharus gyda’r rhai di-gred; canys pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? a pha gymundeb rhwng goleuni a thywyllwch? 15 A pha gysondeb sydd rhwng Crist a Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun? 16 A pha gydfod sydd rhwng teml Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi. 17 Oherwydd paham deuwch allan o’u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch â dim aflan; ac mi a’ch derbyniaf chwi, 18 Ac a fyddaf yn Dad i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion ac yn ferched i mi, medd yr Arglwydd Hollalluog.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.