Old/New Testament
6 Fy mab, os mechnïaist dros dy gymydog, ac os trewaist dy law yn llaw y dieithr, 2 Ti a faglwyd â geiriau dy enau, ti a ddaliwyd â geiriau dy enau. 3 Gwna hyn yr awr hon, fy mab, a gwared dy hun, gan i ti syrthio i law dy gymydog; cerdda, ac ymostwng iddo, ac ymbil â’th gymydog. 4 Na ddyro gwsg i’th lygaid, na hun i’th amrantau. 5 Gwared dy hun fel yr iwrch o law yr heliwr, ac fel aderyn o law yr adarwr.
6 Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth: 7 Nid oes ganddo neb i’w arwain, i’w lywodraethu, nac i’w feistroli; 8 Ac er hynny y mae efe yn paratoi ei fwyd yr haf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhaeaf. 9 Pa hyd, ddiogyn, y gorweddi? pa bryd y cyfodi o’th gwsg? 10 Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylo i gysgu. 11 Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a’th angen fel gŵr arfog.
12 Dyn i’r fall, a gŵr anwir, a rodia â genau cyndyn. 13 Efe a amneidia â’i lygaid, efe a lefara â’i draed, efe a ddysg â’i fysedd. 14 Y mae pob rhyw gyndynrwydd yn ei galon; y mae yn dychymyg drygioni bob amser, yn peri cynhennau. 15 Am hynny ei ddinistr a ddaw arno yn ddisymwth: yn ddisymwth y dryllir ef, fel na byddo meddyginiaeth.
16 Y chwe pheth hyn sydd gas gan yr Arglwydd: ie, saith beth sydd ffiaidd ganddo ef: 17 Llygaid beilchion, tafod celwyddog, a’r dwylo a dywalltant waed gwirion, 18 Y galon a ddychmygo feddyliau drwg, traed yn rhedeg yn fuan i ddrygioni, 19 Tyst celwyddog yn dywedyd celwydd, a’r neb a gyfodo gynnen rhwng brodyr.
20 Fy mab, cadw orchymyn dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam. 21 Rhwym hwynt ar dy galon yn wastadol; clwm hwynt am dy wddf. 22 Pan rodiech, hi a’th gyfarwydda; pan orweddych, hi a’th wylia; pan ddeffroych, hi a gydymddiddan â thi. 23 Canys cannwyll yw y gorchymyn; a goleuni yw y gyfraith; a ffordd i fywyd yw ceryddon addysg: 24 I’th gadw rhag y fenyw ddrwg, a rhag gweniaith tafod y ddieithr. 25 Na chwennych ei phryd hi yn dy galon; ac na ad iddi dy ddal â’i hamrantau. 26 Oblegid y fenyw buteinig y daw dyn i damaid o fara; a gwraig gŵr arall a hela yr enaid gwerthfawr. 27 A ddichon gŵr ddwyn tân yn ei fynwes, heb losgi ei ddillad? 28 A ddichon gŵr rodio ar hyd marwor, ac heb losgi ei draed? 29 Felly, pwy bynnag a êl at wraig ei gymydog; y neb a gyffyrddo â hi, ni bydd lân. 30 Ni ddirmyga neb leidr a ladratao i ddiwallu ei enaid, pan fyddo arno newyn: 31 Ond os delir ef, efe a dâl yn saith ddyblyg; efe a rydd gymaint oll ag a feddo yn ei dŷ. 32 Ond y neb a wnêl odineb â benyw, sydd heb synnwyr; y neb a’i gwnêl, a ddifetha ei enaid ei hun. 33 Archoll a gwarth a gaiff efe; a’i gywilydd ni ddileir. 34 Canys cynddaredd yw eiddigedd gŵr; am hynny nid erbyd efe yn nydd dial. 35 Ni bydd ganddo bris ar ddim iawn; ac ni fodlonir ef, er rhoi rhoddion lawer.
7 Fy mab, cadw fy ngeiriau, a chuddia fy ngorchmynion gyda thi. 2 Cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw; a’m cyfraith fel cannwyll dy lygad. 3 Rhwym hwynt am dy fysedd, ysgrifenna hwynt ar lech dy galon. 4 Dywed wrth ddoethineb, Fy chwaer wyt ti; galw ddeall yn gares: 5 Fel y’th gadwont oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y fenyw â’r ymadrodd gwenieithus.
6 Canys a mi yn ffenestr fy nhŷ mi a edrychais trwy fy nellt, 7 A mi a welais ymysg y ffyliaid, ie, mi a ganfûm ymhlith yr ieuenctid, ddyn ieuanc heb ddeall ganddo, 8 Yn myned ar hyd yr heol gerllaw ei chongl hi; ac efe a âi ar hyd y ffordd i’w thŷ hi, 9 Yn y cyfnos gyda’r hwyr, pan oedd hi yn nos ddu ac yn dywyll: 10 Ac wele fenyw yn cyfarfod ag ef, a chanddi ymddygiad putain, ac â chalon ddichellgar. 11 (Siaradus ac anufudd yw hi; ei thraed nid arhoant yn ei thŷ: 12 Weithiau yn y drws, weithiau yn yr heolydd, ac yn cynllwyn ym mhob congl.) 13 Hi a ymafaelodd ynddo, ac a’i cusanodd, ac ag wyneb digywilydd hi a ddywedodd wrtho, 14 Yr oedd arnaf fi aberthau hedd; heddiw y cywirais fy adduned: 15 Ac am hynny y deuthum allan i gyfarfod â thi, i chwilio am dy wyneb; a chefais afael arnat. 16 Mi a drwsiais fy ngwely â llenni, ac â cherfiadau a llieiniau yr Aifft. 17 Mi a fwgderthais fy ngwely â myrr, aloes, a sinamon. 18 Tyred, moes i ni ymlenwi o garu hyd y bore; ymhyfrydwn â chariad. 19 Canys nid yw y gŵr gartref; efe a aeth i ffordd bell: 20 Efe a gymerth godaid o arian yn ei law; efe a ddaw adref ar y dydd amodol. 21 Hi a’i troes ef â’i haml eiriau teg, ac â gweniaith ei gwefusau hi a’i cymhellodd ef. 22 Efe a’i canlynodd hi ar frys, fel yr ych yn myned i’r lladdfa, neu fel ynfyd yn myned i’r cyffion i’w gosbi: 23 Hyd oni ddryllio y saeth ei afu ef; fel yr aderyn yn prysuro i’r fagl, heb wybod ei bod yn erbyn ei einioes ef.
24 Yn awr gan hynny, fy meibion, gwrandewch arnaf fi, ac ystyriwch eiriau fy ngenau. 25 Na thuedded dy galon at ei ffyrdd hi, na chyfeiliorna ar hyd ei llwybrau hi. 26 Canys llawer a gwympodd hi yn archolledig; ie, gwŷr grymus lawer a laddodd hi. 27 Ffordd i uffern yw ei thŷ hi, yn disgyn i ystafelloedd angau.
2 Eithr mi a fernais hyn ynof fy hunan, na ddelwn drachefn mewn tristwch atoch. 2 Oblegid os myfi a’ch tristâf chwi, pwy yw’r hwn a’m llawenha i, ond yr hwn a dristawyd gennyf fi? 3 Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll. 4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y’ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi. 5 Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll. 6 Digon i’r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd. 7 Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a’i ddiddanu; rhag llyncu’r cyfryw gan ormod tristwch. 8 Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef. 9 Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth. 10 I’r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i’r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist; 11 Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef. 12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd, 13 Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu’n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia. 14 Ond i Dduw y byddo’r diolch, yr hwn yn wastad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yng Nghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wybodaeth trwom ni ym mhob lle. 15 Canys perarogl Crist ydym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig: 16 I’r naill yr ydym yn arogl marwolaeth i farwolaeth; ac i’r lleill, yn arogl bywyd i fywyd: a phwy sydd ddigonol i’r pethau hyn? 17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw: eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yng ngŵydd Duw yr ydym yn llefaru yng Nghrist.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.