Old/New Testament
3 Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: 2 Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. 3 Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. 4 Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.
5 Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. 6 Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.
7 Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. 8 Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.
9 Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: 10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.
11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; 12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.
13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. 14 Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. 15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. 16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. 17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. 18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi. 19 Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. 20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.
21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. 22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. 23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. 24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys. 25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo. 26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.
27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur. 28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr. 29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.
30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.
31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef. 32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.
33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.
34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig. 35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.
4 Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall. 2 Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith. 3 Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam. 4 Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw. 5 Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau. 6 Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di. 7 Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall. 8 Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi. 9 Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant. 10 Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir. 11 Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb. 12 Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi. 13 Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14 Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. 15 Gochel hi, na ddos ar hyd‐ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio. 16 Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn. 17 Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais. 18 Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. 19 Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20 Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion. 21 Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon. 22 Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.
23 Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod. 24 Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt. 25 Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen. 26 Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn. 27 Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
5 Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall: 2 Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth.
3 Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew: 4 Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog. 5 Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern. 6 Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti. 7 Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau. 8 Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi: 9 Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon: 10 Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr; 11 Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio, 12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd! 13 Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr! 14 Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa.
15 Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun. 16 Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd. 17 Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi. 18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid. 19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol. 20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti? 21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.
22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun. 23 Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.
1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a’r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda’r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia: 2 Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 3 Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch; 4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu’r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy’r diddanwch â’r hwn y’n diddenir ni ein hunain gan Dduw. 5 Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau. 6 A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny. 7 Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o’r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r diddanwch. 8 Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd. 9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi’r meirw: 10 Yr hwn a’n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw: 11 A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom. 12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi. 13 Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd; 14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu. 15 Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y caffech ail ras; 16 A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i Jwdea. 17 Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie, a nage, nage? 18 Eithr ffyddlon yw Duw, a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage. 19 Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd. 20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef ydynt ie, ac ynddo ef amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. 21 A’r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist, ac a’n heneiniodd ni, yw Duw: 22 Yr hwn hefyd a’n seliodd, ac a roes ernes yr Ysbryd yn ein calonnau. 23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi na ddeuthum eto i Gorinth. 24 Nid am ein bod yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, ond yr ydym yn gyd-weithwyr i’ch llawenydd: oblegid trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.