Old/New Testament
1 Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel; 2 I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr; 3 I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb; 4 I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr. 5 Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog: 6 I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.
7 Ofn yr Arglwydd yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg. 8 Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam: 9 Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.
10 Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna. 11 Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos: 12 Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew: 13 Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail: 14 Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd: 15 Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy. 16 Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed. 17 Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain. 18 Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu. 19 Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.
20 Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd: 21 Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd, 22 Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth? 23 Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.
24 Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried; 25 Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd: 26 Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni; 27 Pan ddêl arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi: 28 Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt: 29 Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwydd ni ddewisasant: 30 Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd. 31 Am hynny hwy a gânt fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain. 32 Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha. 33 Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.
2 Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; 2 Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; 3 Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; 4 Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; 5 Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw. 6 Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. 7 Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. 8 Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. 9 Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; 11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: 12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; 13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; 14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; 15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau: 16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau; 17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw. 18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw. 19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd. 20 Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn. 21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi. 22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.
16 Hefyd am y gasgl i’r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau. 2 Y dydd cyntaf o’r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi. 3 A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem. 4 Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi. 5 Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.) 6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y’m hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf. 7 Canys nid oes i’m bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada’r Arglwydd. 8 Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn. 9 Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer. 10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau. 11 Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda’r brodyr. 12 Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda’r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas. 13 Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch. 14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad. 15 Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,) 16 Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i’r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio. 17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a’i cyflawnasant; 18 Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a’r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai. 19 Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych. 20 Y mae’r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol. 21 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. 22 Od oes neb nid yw yn caru’r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha. 23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi. 24 Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.
Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.