Old/New Testament
146 Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd. 2 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 3 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo. 4 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 5 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: 6 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd: 7 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd. 8 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn. 9 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol. 10 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
147 Molwch yr Arglwydd: canys da yw canu i’n Duw ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl. 2 Yr Arglwydd sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel. 3 Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau. 4 Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau. 5 Mawr yw ein Harglwydd, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall. 6 Yr Arglwydd sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr. 7 Cydgenwch i’r Arglwydd mewn diolchgarwch: cenwch i’n Duw â’r delyn; 8 Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd. 9 Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant. 10 Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr. 11 Yr Arglwydd sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef. 12 Jerwsalem, mola di yr Arglwydd: Seion, molianna dy Dduw. 13 Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn. 14 Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith. 15 Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan. 16 Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw. 17 Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef? 18 Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant. 19 Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel. 20 Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr Arglwydd.
15 Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; 2 Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. 3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; 4 A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; 5 A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. 6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. 7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. 8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. 9 Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. 10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. 11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi. 12 Ac os pregethir Crist, ei gyfodi ef o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes atgyfodiad y meirw? 13 Eithr onid oes atgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith: 14 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yn wir yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. 15 Fe a’n ceir hefyd yn gau dystion i Dduw; canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist: yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. 16 Canys os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. 17 Ac os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. 18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yng Nghrist. 19 Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn yng Nghrist, truanaf o’r holl ddynion ydym ni. 20 Eithr yn awr Crist a gyfodwyd oddi wrth y meirw, ac a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant. 21 Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae atgyfodiad y meirw. 22 Oblegid megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yng Nghrist y bywheir pawb. 23 Eithr pob un yn ei drefn ei hun: y blaenffrwyth yw Crist; wedi hynny y rhai ydynt eiddo Crist yn ei ddyfodiad ef. 24 Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a’r Tad: wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. 25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed. 26 Y gelyn diwethaf a ddinistrir yw yr angau. 27 Canys efe a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo. 28 A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir i’r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.