Old/New Testament
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
140 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: 2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. 3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. 4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. 5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. 6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau. 7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. 8 Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. 9 Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. 10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. 11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. 12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. 13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
Salm Dafydd.
141 Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat. 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol. 3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau. 4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt. 5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt. 6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt. 7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear. 8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd. 9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd. 10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.
142 Gwaeddais â’m llef ar yr Arglwydd; â’m llef yr ymbiliais â’r Arglwydd. 2 Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef. 3 Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl. 4 Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid. 5 Llefais arnat, O Arglwydd; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw. 6 Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi. 7 Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.
14 Dilynwch gariad, a deisyfwch ddoniau ysbrydol; ond yn hytrach fel y proffwydoch. 2 Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, nid wrth ddynion y mae yn llefaru, ond wrth Dduw; canys nid oes neb yn gwrando; er hynny yn yr ysbryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau. 3 Eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion er adeiladaeth, a chyngor, a chysur. 4 Yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, sydd yn ei adeiladu ei hunan: eithr yr hwn sydd yn proffwydo, sydd yn adeiladu yr eglwys. 5 Mi a fynnwn petech chwi oll yn llefaru â thafodau dieithr; ond yn hytrach broffwydo ohonoch: canys mwy yw’r hwn sydd yn proffwydo, na’r hwn sydd yn llefaru â thafodau; oddieithr iddo ei gyfieithu, fel y derbynio yr eglwys adeiladaeth. 6 Ac yr awr hon, frodyr, os deuaf atoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi, oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wybodaeth, neu trwy broffwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth? 7 Hefyd pethau dienaid wrth roddi sain, pa un bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwybyddir y peth a genir ar y bibell neu ar y delyn? 8 Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel? 9 Felly chwithau, oni roddwch â’r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr. 10 Y mae cymaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y byd, ac nid oes un ohonynt yn aflafar. 11 Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf farbariad i’r hwn sydd yn llefaru, a’r hwn sydd yn llefaru a fydd i mi yn farbariad. 12 Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysbrydol, ceisiwch ragori tuag at adeiladaeth yr eglwys. 13 Oherwydd paham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod dieithr, gweddïed ar iddo allu cyfieithu. 14 Canys os gweddïaf â thafod dieithr, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth. 15 Beth gan hynny? Mi a weddïaf â’r ysbryd, ac a weddïaf â’r deall hefyd: canaf â’r ysbryd, a chanaf â’r deall hefyd. 16 Canys os bendithi â’r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle’r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddywedyd? 17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu. 18 Yr ydwyf yn diolch i’m Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau yn fwy na chwi oll: 19 Ond yn yr eglwys gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dysgwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. 20 O frodyr, na fyddwch fechgyn mewn deall; eithr mewn drygioni byddwch blant; ond mewn deall byddwch berffaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.