Old/New Testament
Caniad y graddau.
132 O Arglwydd, cofia Dafydd, a’i holl flinder; 2 Y modd y tyngodd efe wrth yr Arglwydd, ac yr addunodd i rymus Dduw Jacob: 3 Ni ddeuaf i fewn pabell fy nhŷ, ni ddringaf ar erchwyn fy ngwely; 4 Ni roddaf gwsg i’m llygaid, na hun i’m hamrantau, 5 Hyd oni chaffwyf le i’r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob. 6 Wele, clywsom amdani yn Effrata: cawsom hi ym meysydd y coed. 7 Awn i’w bebyll ef; ymgrymwn o flaen ei fainc draed ef. 8 Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa; ti ac arch dy gadernid. 9 Gwisged dy offeiriaid gyfiawnder; a gorfoledded dy saint. 10 Er mwyn Dafydd dy was, na thro ymaith wyneb dy Eneiniog. 11 Tyngodd yr Arglwydd mewn gwirionedd i Dafydd; ni thry efe oddi wrth hynny; o ffrwyth dy gorff y gosodaf ar dy orseddfainc. 12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod a’m tystiolaeth, y rhai a ddysgwyf iddynt; eu meibion hwythau yn dragywydd a eisteddant ar dy orseddfainc. 13 Canys dewisodd yr Arglwydd Seion: ac a’i chwenychodd yn drigfa iddo ei hun. 14 Dyma fy ngorffwysfa yn dragywydd: yma y trigaf; canys chwenychais hi. 15 Gan fendithio y bendithiaf ei lluniaeth: diwallaf ei thlodion â bara. 16 Ei hoffeiriaid hefyd a wisgaf ag iachawdwriaeth: a’i saint dan ganu a ganant. 17 Yna y paraf i gorn Dafydd flaguro: darperais lamp i’m Heneiniog. 18 Ei elynion ef a wisgaf â chywilydd: arno yntau y blodeua ei goron.
Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.
133 Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr ynghyd! 2 Y mae fel yr ennaint gwerthfawr ar y pen, yn disgyn ar hyd y farf, sef barf Aaron; yr hwn oedd yn disgyn ar hyd ymyl ei wisgoedd ef: 3 Fel gwlith Hermon, ac fel y gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Seion: canys yno y gorchmynnodd yr Arglwydd y fendith, sef bywyd yn dragywydd.
Caniad y graddau.
134 Wele, holl weision yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd, y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd y nos. 2 Dyrchefwch eich dwylo yn y cysegr; a bendithiwch yr Arglwydd. 3 Yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a’th fendithio di allan o Seion.
17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol. 23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara: 24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf. 26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo. 27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32 Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd. 34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref: fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a’u trefnaf pan ddelwyf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.