Old/New Testament
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; 2 Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. 3 Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. 4 Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. 5 Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? 6 Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? 7 Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: 8 Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.
115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. 2 Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? 3 Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. 4 Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. 5 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: 6 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: 7 Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. 8 Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 9 O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.
6 A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint? 2 Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf? 3 Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn? 4 Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys. 5 Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr? 6 Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred? 7 Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled? 8 Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr. 9 Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr, 10 Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw. 11 A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni. 12 Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim. 13 Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff. 14 Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef. 15 Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd. 17 Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw. 18 Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun. 19 Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain? 20 Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.