Old/New Testament
Salm Dafydd.
110 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed. 2 Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion. 3 Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti. 4 Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec. 5 Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint. 6 Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad. 7 Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.
111 Molwch yr Arglwydd. Clodforaf yr Arglwydd â’m holl galon, yng nghymanfa y rhai uniawn, ac yn y gynulleidfa. 2 Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd, wedi eu ceisio gan bawb a’u hoffant. 3 Gogoniant a harddwch yw ei waith ef; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Gwnaeth gofio ei ryfeddodau: graslon a thrugarog yw yr Arglwydd. 5 Rhoddodd ymborth i’r rhai a’i hofnant ef: efe a gofia ei gyfamod yn dragywydd. 6 Mynegodd i’w bobl gadernid ei weithredoedd, i roddi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd. 7 Gwirionedd a barn yw gweithredoedd ei ddwylo ef: ei holl orchmynion ydynt sicr: 8 Wedi eu sicrhau byth ac yn dragywydd, a’u gwneuthur mewn gwirionedd ac uniawnder. 9 Anfonodd ymwared i’w bobl: gorchmynnodd ei gyfamod yn dragwyddol: sancteiddiol ac ofnadwy yw ei enw ef. 10 Dechreuad doethineb yw ofn yr Arglwydd: deall da sydd gan y rhai a wnânt ei orchmynion ef: y mae ei foliant ef yn parhau byth.
112 Molwch yr Arglwydd. Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr. 2 Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir. 3 Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth. 4 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe. 5 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion. 6 Yn ddiau nid ysgogir ef byth: y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth. 7 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd. 8 Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion. 9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant. 10 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac a dawdd ymaith: derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
5 Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad. 2 Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon. 3 Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly, 4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, 5 Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu. 6 Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? 7 Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni: 8 Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd. 9 Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr: 10 Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd. 11 Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith. 12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13 Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.