Old/New Testament
107 Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. 2 Felly dyweded gwaredigion yr Arglwydd, y rhai a waredodd efe o law y gelyn; 3 Ac a gasglodd efe o’r tiroedd, o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, o’r gogledd, ac o’r deau. 4 Crwydrasant yn yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb gael dinas i aros ynddi: 5 Yn newynog ac yn sychedig, eu henaid a lewygodd ynddynt. 6 Yna y llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u gwaredodd o’u gorthrymderau; 7 Ac a’u tywysodd hwynt ar hyd y ffordd uniawn, i fyned i ddinas gyfanheddol. 8 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 9 Canys efe a ddiwalla yr enaid sychedig, ac a leinw yr enaid newynog â daioni. 10 Y rhai a breswyliant yn y tywyllwch a chysgod angau, yn rhwym mewn cystudd a haearn: 11 Oherwydd anufuddhau ohonynt eiriau Duw, a dirmygu cyngor y Goruchaf. 12 Am hynny yntau a ostyngodd eu calon â blinder: syrthiasant, ac nid oedd cynorthwywr. 13 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. 14 Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt. 15 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 16 Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn. 17 Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir. 18 Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau. 19 Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u hachubodd o’u gorthrymderau. 20 Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a’u gwaredodd o’u dinistr. 21 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 22 Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd. 23 Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i’r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion. 24 Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a’i ryfeddodau yn y dyfnder. 25 Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef. 26 Hwy a esgynnant i’r nefoedd, disgynnant i’r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder. 27 Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a’u holl ddoethineb a ballodd. 28 Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a’u dwg allan o’u gorthrymderau. 29 Efe a wna yr ystorm yn dawel; a’i thonnau a ostegant. 30 Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a’u dwg i’r porthladd a ddymunent. 31 O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a’i ryfeddodau i feibion dynion! 32 A dyrchafant ef yng nghynulleidfa y bobl, a moliannant ef yn eisteddfod yr henuriaid. 33 Efe a wna afonydd yn ddiffeithwch, a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir; 34 A thir ffrwythlon yn ddiffrwyth, am ddrygioni y rhai a drigant ynddo. 35 Efe a dry yr anialwch yn llyn dwfr, a’r tir cras yn ffynhonnau dwfr. 36 Ac yno y gwna i’r newynog aros; fel y darparont ddinas i gyfanheddu: 37 Ac yr heuont feysydd, ac y plannont winllannoedd, y rhai a ddygant ffrwyth toreithiog. 38 Ac efe a’u bendithia hwynt fel yr amlhânt yn ddirfawr, ac ni ad i’w hanifeiliaid leihau. 39 Lleiheir hwynt hefyd, a gostyngir hwynt, gan gyfyngder, drygfyd, a chyni. 40 Efe a dywallt ddirmyg ar foneddigion, ac a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd. 41 Ond efe a gyfyd y tlawd o gystudd, ac a wna iddo deuluoedd fel praidd. 42 Y rhai uniawn a welant hyn, ac a lawenychant: a phob anwiredd a gae ei safn. 43 Y neb sydd ddoeth, ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau yr Arglwydd.
Cân neu Salm Dafydd.
108 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant. 2 Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore. 3 Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 4 Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren. 5 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear; 6 Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. 7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. 8 Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr. 9 Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia. 10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom? 11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd? 12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn. 13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
109 Na thaw, O Dduw fy moliant. 2 Canys genau yr annuwiol a genau y twyllodrus a ymagorasant arnaf: â thafod celwyddog y llefarasant i’m herbyn. 3 Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos. 4 Am fy ngharedigrwydd y’m gwrthwynebant: minnau a arferaf weddi. 5 Talasant hefyd i mi ddrwg am dda, a chas am fy nghariad. 6 Gosod dithau un annuwiol arno ef; a safed Satan wrth ei ddeheulaw ef. 7 Pan farner ef, eled yn euog; a bydded ei weddi yn bechod. 8 Ychydig fyddo ei ddyddiau; a chymered arall ei swydd ef. 9 Bydded ei blant yn amddifaid, a’i wraig yn weddw. 10 Gan grwydro hefyd crwydred ei blant ef, a chardotant: ceisiant hefyd eu bara o’u hanghyfannedd leoedd. 11 Rhwyded y ceisiad yr hyn oll sydd ganddo; ac anrheithied dieithriaid ei lafur ef. 12 Na fydded neb a estynno drugaredd iddo; ac na fydded neb a drugarhao wrth ei amddifaid ef. 13 Torrer ymaith ei hiliogaeth ef: dileer eu henw yn yr oes nesaf. 14 Cofier anwiredd ei dadau o flaen yr Arglwydd; ac na ddileer pechod ei fam ef. 15 Byddant bob amser gerbron yr Arglwydd, fel y torro efe ymaith eu coffadwriaeth o’r tir: 16 Am na chofiodd wneuthur trugaredd, eithr erlid ohono y truan a’r tlawd, a’r cystuddiedig o galon, i’w ladd. 17 Hoffodd felltith, a hi a ddaeth iddo: ni fynnai fendith, a hi a bellhaodd oddi wrtho. 18 Ie, gwisgodd felltith fel dilledyn; a hi a ddaeth fel dwfr i’w fewn, ac fel olew i’w esgyrn. 19 Bydded iddo fel dilledyn yr hwn a wisgo efe, ac fel gwregys a’i gwregyso efe yn wastadol. 20 Hyn fyddo tâl fy ngwrthwynebwyr gan yr Arglwydd, a’r rhai a ddywedant ddrwg yn erbyn fy enaid. 21 Tithau, Arglwydd Dduw, gwna erof fi er mwyn dy enw: am fod yn dda dy drugaredd, gwared fi. 22 Canys truan a thlawd ydwyf fi, a’m calon a archollwyd o’m mewn. 23 Euthum fel cysgod pan gilio: fel locust y’m hysgydwir. 24 Fy ngliniau a aethant yn egwan gan ympryd; a’m cnawd a guriodd o eisiau braster. 25 Gwaradwydd hefyd oeddwn iddynt: pan welent fi, siglent eu pennau. 26 Cynorthwya fi, O Arglwydd fy Nuw; achub fi yn ôl dy drugaredd: 27 Fel y gwypont mai dy law di yw hyn; mai ti, Arglwydd, a’i gwnaethost. 28 Melltithiant hwy, ond bendithia di: cywilyddier hwynt, pan gyfodant; a llawenyched dy was. 29 Gwisger fy ngwrthwynebwyr â gwarth, ac ymwisgant â’u cywilydd, megis â chochl. 30 Clodforaf yr Arglwydd yn ddirfawr â’m genau; ie, moliannaf ef ymysg llawer. 31 Oherwydd efe a saif ar ddeheulaw y tlawd, i’w achub oddi wrth y rhai a farnant ei enaid.
4 Felly cyfrifed dyn nyni, megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2 Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3 Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4 Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5 Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd y glod i bob un gan Dduw. 6 A’r pethau hyn, frodyr, mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. 7 Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? 8 Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9 Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10 Yr ydym ni yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11 Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12 Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13 Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14 Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf fel fy mhlant annwyl. 15 Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, byddwch ddilynwyr i mi. 17 Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18 Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19 Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20 Canys nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21 Beth a fynnwch chwi? ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.