Old/New Testament
97 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; gorfoledded y ddaear: llawenyched ynysoedd lawer. 2 Cymylau a thywyllwch sydd o’i amgylch ef: cyfiawnder a barn yw trigfa ei orseddfainc ef. 3 Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch. 4 Ei fellt a lewyrchasant y byd: y ddaear a welodd, ac a grynodd. 5 Y mynyddoedd a doddasant fel cwyr o flaen yr Arglwydd, o flaen Arglwydd yr holl ddaear. 6 Y nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef, a’r holl bobl a welant ei ogoniant. 7 Gwaradwydder y rhai oll a wasanaethant ddelw gerfiedig, y rhai a ymffrostiant mewn eilunod: addolwch ef, yr holl dduwiau. 8 Seion a glywodd, ac a lawenychodd; a merched Jwda a orfoleddasant, oherwydd dy farnedigaethau di, O Arglwydd. 9 Canys ti, Arglwydd, wyt oruchel goruwch yr holl ddaear: dirfawr y’th ddyrchafwyd goruwch yr holl dduwiau. 10 Y rhai a gerwch yr Arglwydd, casewch ddrygioni: efe sydd yn cadw eneidiau ei saint; efe a’u gwared o law y rhai annuwiol. 11 Heuwyd goleuni i’r cyfiawn, a llawenydd i’r rhai uniawn o galon. 12 Y rhai cyfiawn, llawenychwch yn yr Arglwydd; a moliennwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
99 Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu; cryned y bobloedd: eistedd y mae rhwng y ceriwbiaid; ymgynhyrfed y ddaear. 2 Mawr yw yr Arglwydd yn Seion, a dyrchafedig yw efe goruwch yr holl bobloedd. 3 Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw. 4 A nerth y Brenin a hoffa farn: ti a sicrhei uniondeb, barn a chyfiawnder a wnei di yn Jacob. 5 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch o flaen ei ystôl draed ef: canys sanctaidd yw. 6 Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid ef; a Samuel ymysg y rhai a alwant ar ei enw: galwasant ar yr Arglwydd, ac efe a’u gwrandawodd hwynt. 7 Llefarodd wrthynt yn y golofn gwmwl: cadwasant ei dystiolaethau, a’r ddeddf a roddodd efe iddynt. 8 Gwrandewaist arnynt, O Arglwydd ein Duw: Duw oeddit yn eu harbed, ie, pan ddielit am eu dychmygion. 9 Dyrchefwch yr Arglwydd ein Duw, ac ymgrymwch ar ei fynydd sanctaidd: canys sanctaidd yw yr Arglwydd ein Duw.
16 Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe ein chwaer, yr hon sydd weinidoges i eglwys Cenchrea: 2 Dderbyn ohonoch hi yn yr Arglwydd, megis y mae yn addas i saint, a’i chynorthwyo hi ym mha beth bynnag y byddo rhaid iddi wrthych: canys hithau hefyd a fu gymorth i lawer, ac i minnau fy hun hefyd. 3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; 4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd. 5 Anerchwch hefyd yr eglwys sydd yn eu tŷ hwy. Anerchwch fy annwyl Epenetus, yr hwn yw blaenffrwyth Achaia yng Nghrist. 6 Anerchwch Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erom ni. 7 Anerchwch Andronicus a Jwnia, fy ngheraint a’m cyd‐garcharorion, y rhai sydd hynod ymhlith yr apostolion, y rhai hefyd oeddynt yng Nghrist o’m blaen i. 8 Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. 9 Anerchwch Urbanus, ein cyd‐weithiwr yng Nghrist, a Stachys fy anwylyd. 10 Anerchwch Apeles, y profedig yng Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. 11 Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcisus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. 12 Anerchwch Tryffena a Thryffosa, y rhai a gymerasant boen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr annwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. 13 Anerchwch Rwffus etholedig yn yr Arglwydd, a’i fam ef a minnau. 14 Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Mercurius; a’r brodyr sydd gyda hwynt. 15 Anerchwch Philogus, a Jwlia, Nereus a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sydd gyda hwynt. 16 Anerchwch y naill y llall â chusan sanctaidd. Y mae eglwysi Crist yn eich annerch. 17 Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi; a chiliwch oddi wrthynt. 18 Canys y rhai sydd gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonnau’r rhai diddrwg. 19 Canys eich ufudd‐dod chwi a ddaeth ar led at bawb. Yr wyf fi gan hynny yn llawen o’ch rhan chwi: eithr myfi a ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuag at y peth sydd dda, ac yn wirion tuag at y peth sydd ddrwg. 20 A Duw’r tangnefedd a sathr Satan dan eich traed chwi ar frys. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. 21 Y mae Timotheus fy nghyd‐weithiwr, a Lucius, a Jason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich annerch. 22 Yr wyf fi Tertius, yr hwn a ysgrifennais yr epistol hwn, yn eich annerch yn yr Arglwydd. 23 Y mae Gaius fy lletywr i, a’r holl eglwys, yn eich annerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich annerch, a’r brawd Cwartus. 24 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi oll. Amen. 25 I’r hwn a ddichon eich cadarnhau yn ôl fy efengyl i, a phregethiad Iesu Grist, (yn ôl datguddiad y dirgelwch, yr hwn ni soniwyd amdano er dechreuad y byd; 26 Ac yr awron a eglurwyd, a thrwy ysgrythurau’r proffwydi, yn ôl gorchymyn y tragwyddol Dduw, a gyhoeddwyd ymhlith yr holl genhedloedd, er mwyn ufudd‐dod ffydd:) 27 I Dduw yr unig ddoeth, y byddo gogoniant trwy Iesu Grist yn dragywydd. Amen.
At y Rhufeiniaid yr ysgrifennwyd o Gorinth, gyda Phebe, gweinidoges yr eglwys yn Cenchrea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.