Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 89-90

Maschil Ethan yr Esrahiad.

89 Trugareddau yr Arglwydd a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth. Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd. Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd. Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela. A’r nefoedd, O Arglwydd, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint. Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r Arglwydd? pwy a gyffelybir i’r Arglwydd ymysg meibion y cedyrn? Duw sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn Iôr? a’th wirionedd o’th amgylch? Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi. 10 Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion. 11 Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder. 12 Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw. 13 Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. 14 Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb. 15 Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O Arglwydd, y rhodiant hwy. 16 Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant. 17 Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni. 18 Canys yr Arglwydd yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin. 19 Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl. 20 Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd: 21 Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef. 22 Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef. 23 Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf. 24 Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef. 25 A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd. 26 Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy Nuw, a Chraig fy iachawdwriaeth. 27 Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear. 28 Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo. 29 Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd. 30 Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau; 31 Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant: 32 Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau. 33 Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd. 34 Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau. 35 Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd. 36 Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i. 37 Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela. 38 Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog. 39 Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr. 40 Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau. 41 Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion. 42 Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion. 43 Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel. 44 Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr. 45 Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela. 46 Pa hyd, Arglwydd, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân? 47 Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer? 48 Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela. 49 Pa le y mae dy hen drugareddau, O Arglwydd, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd? 50 Cofia, O Arglwydd, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion; 51 A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O Arglwydd; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog. 52 Bendigedig fyddo yr Arglwydd yn dragywydd. Amen, ac Amen.

Gweddi Moses gŵr Duw.

90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. 12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.

Rhufeiniaid 14

14 Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau. Canys y mae un yn credu y gall fwyta pob peth; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta; a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw a’i derbyniodd ef. Pwy wyt ti, yr hwn wyt yn barnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio: ac efe a gynhelir; canys fe a all Duw ei gynnal ef. Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. Yr hwn sydd yn ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae yn ei ystyried; a’r hwn sydd heb ystyried diwrnod, i’r Arglwydd y mae heb ei ystyried. Yr hwn sydd yn bwyta; i’r Arglwydd y mae yn bwyta; canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn sydd heb fwyta, i’r Arglwydd y mae heb fwyta; ac y mae yn diolch i Dduw. Canys nid oes yr un ohonom yn byw iddo’i hun, ac nid yw’r un yn marw iddo’i hun. Canys pa un bynnag yr ydym ai byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw: am hynny, pa un bynnag yr ydym ai byw ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Oblegid er mwyn hyn y bu farw Crist, ac yr atgyfododd, ac y bu fyw drachefn hefyd, fel yr arglwyddiaethai ar y meirw a’r byw hefyd. 10 Eithr paham yr wyt ti yn barnu dy frawd? neu paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gerbron gorseddfainc Crist. 11 Canys y mae yn ysgrifenedig, Byw wyf fi, medd yr Arglwydd; pob glin a blyga i mi, a phob tafod a gyffesa i Dduw. 12 Felly gan hynny pob un ohonom drosto’i hun a rydd gyfrif i Dduw. 13 Am hynny na farnwn ein gilydd mwyach: ond bernwch hyn yn hytrach, na bo i neb roddi tramgwydd i’w frawd, neu rwystr. 14 Mi a wn, ac y mae yn sicr gennyf trwy’r Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono’i hun: ond i’r hwn sydd yn tybied fod peth yn aflan, i hwnnw y mae yn aflan. 15 Eithr os o achos bwyd y tristeir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio yn ôl cariad. Na ddistrywia ef â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. 16 Na chabler gan hynny eich daioni chwi. 17 Canys nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. 18 Canys yr hwn sydd yn gwasanaethu Crist yn y pethau hyn, sydd hoff gan Dduw, a chymeradwy gan ddynion. 19 Felly gan hynny dilynwn y pethau a berthynant i heddwch, a’r pethau a berthynant i adeiladaeth ein gilydd. 20 O achos bwyd na ddinistria waith Duw. Pob peth yn wir sydd lân; eithr drwg yw i’r dyn sydd yn bwyta trwy dramgwydd. 21 Da yw na fwytaer cig, ac nad yfer gwin, na dim trwy’r hyn y tramgwydder, neu y rhwystrer, neu y gwanhaer dy frawd. 22 A oes ffydd gennyt ti? bydded hi gyda thi dy hun gerbron Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei farnu ei hun yn yr hyn y mae yn ei dybied yn dda. 23 Eithr yr hwn sydd yn petruso, os bwyty, efe a gondemniwyd, am nad yw yn bwyta o ffydd: a pheth bynnag nid yw o ffydd, pechod yw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.