Old/New Testament
Salm neu Gân meibion Cora.
87 Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd. 2 Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob. 3 Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela. 4 Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn. 5 Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a’r gŵr a anwyd ynddi: a’r Goruchaf ei hun a’i sicrha hi. 6 Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela. 7 Y cantorion a’r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.
Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.
88 O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos. 2 Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain. 3 Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod. 4 Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth. 5 Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law. 6 Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau. 7 Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela. 8 Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan. 9 Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat. 10 Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela. 11 A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw? 12 A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof? 13 Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen. 14 Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf? 15 Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso. 16 Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith. 17 Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant. 18 Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.
13 Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel: canys nid oes awdurdod ond oddi wrth Dduw; a’r awdurdodau y sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. 2 Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw: a’r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. 3 Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i’r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna’r hyn sydd dda, a thi a gei glod ganddo: 4 Canys gweinidog Duw ydyw efe i ti er daioni. Eithr os gwnei ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: oblegid gweinidog Duw yw efe, dialydd llid i’r hwn sydd yn gwneuthur drwg. 5 Herwydd paham anghenraid yw ymddarostwng, nid yn unig oherwydd llid, eithr oherwydd cydwybod hefyd. 6 Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hefyd: oblegid gwasanaethwyr Duw ydynt hwy, yn gwylied ar hyn yna. 7 Telwch gan hynny i bawb eu dyledion: teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch yn ddyledus. 8 Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y gyfraith. 9 Canys hyn, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, Na thrachwanta; ac od oes un gorchymyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymydog fel ti dy hun. 10 Cariad ni wna ddrwg i’w gymydog: am hynny cyflawnder y gyfraith yw cariad. 11 A hyn, gan wybod yr amser, ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu: canys yr awr hon y mae ein hiachawdwriaeth ni yn nes na phan gredasom. 12 Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd: am hynny bwriwn oddi wrthym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau’r goleuni. 13 Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dydd; nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14 Eithr gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist; ac na wnewch ragddarbod dros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.