Old/New Testament
I’r Pencerdd ar Gittith, Salm meibion Cora.
84 Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd! 2 Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw. 3 Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a’r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a’m Duw. 4 Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y’th foliannant. Sela. 5 Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a’th ffyrdd yn eu calon: 6 Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a’i gwnânt yn ffynnon: a’r glaw a leinw y llynnau. 7 Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion. 8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.
85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. 2 Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. 3 Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. 4 Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. 5 Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? 6 Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? 7 Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. 8 Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. 9 Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.
Gweddi Dafydd.
86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. 2 Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. 3 Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. 4 Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 5 Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. 6 Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. 7 Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. 8 Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. 9 Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw. 11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.
12 Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi. 2 Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. 3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd. 4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd: 5 Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd. 6 A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd; 7 Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; 8 Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. 9 Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da. 10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd: 11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd: 12 Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi: 13 Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint; ac yn dilyn lletygarwch. 14 Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch. 15 Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo. 16 Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. 17 Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn. 18 Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn. 19 Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. 20 Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef. 21 Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.