Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 79-80

Salm Asaff.

79 Y cenhedloedd, O Dduw, a ddaethant i’th etifeddiaeth; halogasant dy deml sanctaidd: gosodasant Jerwsalem yn garneddau. Rhoddasant gelanedd dy weision yn fwyd i adar y nefoedd, a chig dy saint i fwystfilod y ddaear. Tywalltasant eu gwaed fel dwfr o amgylch Jerwsalem: ac nid oedd a’u claddai. Yr ydym ni yn warthrudd i’n cymdogion; dirmyg a gwatwargerdd i’r rhai sydd o’n hamgylch. Pa hyd, Arglwydd? a ddigi di yn dragywydd? a lysg dy eiddigedd di fel tân? Tywallt dy lid ar y cenhedloedd ni’th adnabuant, ac ar y teyrnasoedd ni alwasant ar dy enw. Canys ysasant Jacob, ac a wnaethant ei breswylfa yn anghyfannedd. Na chofia yr anwireddau gynt i’n herbyn: brysia, rhagflaened dy dostur drugareddau ni: canys llesg iawn y’n gwnaethpwyd. Cynorthwya ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw. 10 Paham y dywed y cenhedloedd, Pa le y mae eu Duw hwynt? bydded hysbys ymhlith y cenhedloedd yn ein golwg ni, wrth ddial gwaed dy weision yr hwn a dywalltwyd. 11 Deued uchenaid y carcharorion ger dy fron: yn ôl mawredd dy nerth cadw blant marwolaeth. 12 A thâl i’n cymdogion ar y seithfed i’w mynwes, eu cabledd trwy yr hon y’th gablasant di, O Arglwydd. 13 A ninnau dy bobl a defaid dy borfa, a’th foliannwn di yn dragywydd: datganwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.

I’r Pencerdd ar Sosannim Eduth, Salm Asaff.

80 Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni. Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl? Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr. Gosodaist ni yn gynnen i’n cymdogion; a’n gelynion a’n gwatwarant yn eu mysg eu hun. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir. Mudaist winwydden o’r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi. Arloesaist o’i blaen, a pheraist i’w gwraidd wreiddio, a hi a lanwodd y tir. 10 Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod; a’i changhennau oedd fel cedrwydd rhagorol. 11 Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon. 12 Paham y rhwygaist ei chaeau, fel y tynno pawb a elo heibio ar hyd y ffordd ei grawn hi? 13 Y baedd o’r coed a’i turia, a bwystfil y maes a’i pawr. 14 O Dduw y lluoedd, dychwel, atolwg: edrych o’r nefoedd, a chenfydd, ac ymwêl â’r winwydden hon; 15 A’r winllan a blannodd dy ddeheulaw, ac â’r planhigyn a gadarnheaist i ti dy hun. 16 Llosgwyd hi â thân; torrwyd hi i lawr: gan gerydd dy wyneb y difethir hwynt. 17 Bydded dy law dros ŵr dy ddeheulaw, a thros fab y dyn yr hwn a gadarnheaist i ti dy hun. 18 Felly ni chiliwn yn ôl oddi wrthyt ti: bywha ni, a ni a alwn ar dy enw. 19 O Arglwydd Dduw y lluoedd, dychwel ni, llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.

Rhufeiniaid 11:1-18

11 Am hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Canys yr wyf finnau hefyd yn Israeliad, o had Abraham, o lwyth Benjamin. Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd am Eleias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, O Arglwydd, hwy a laddasant dy broffwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau. Eithr pa beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal. Felly gan hynny y pryd hwn hefyd y mae gweddill yn ôl etholedigaeth gras. Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach: os amgen, nid yw gras yn ras mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw o ras mwyach: os amgen, nid yw gweithred yn weithred mwyach. Beth gan hynny? Ni chafodd Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a’i cafodd, a’r lleill a galedwyd; (Megis y mae yn ysgrifenedig, Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg, llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent;) hyd y dydd heddiw. Ac y mae Dafydd yn dywedyd, Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt: 10 Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant, a chydgryma di eu cefnau hwy bob amser. 11 Gan hynny meddaf, A dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na ato Duw: eithr trwy eu cwymp hwy y daeth iachawdwriaeth i’r Cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt. 12 Oherwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleihad hwy yn olud i’r Cenhedloedd; pa faint mwy y bydd eu cyflawnder hwy? 13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymaint â’m bod i yn apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd; 14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig a’m gwaed fy hun, ac achub rhai ohonynt. 15 Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymod i’r byd, beth fydd eu derbyniad hwy ond bywyd o feirw? 16 Canys os sanctaidd y blaenffrwyth, y mae’r clamp toes hefyd yn sanctaidd: ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae’r canghennau hefyd felly. 17 Ac os rhai o’r canghennau a dorrwyd ymaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a’th wnaethpwyd yn gyfrannog o’r gwreiddyn, ac o fraster yr olewydden; 18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.