Old/New Testament
Salm i Solomon.
72 O Dduw, dod i’r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder. 2 Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a’th drueiniaid â barn. 3 Y mynyddoedd a ddygant heddwch i’r bobl, a’r bryniau, trwy gyfiawnder. 4 Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd. 5 Tra fyddo haul a lleuad y’th ofnant, yn oes oesoedd. 6 Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear. 7 Yn ei ddyddiau ef y blodeua y cyfiawn; ac amlder o heddwch fydd tra fyddo lleuad. 8 Ac efe a lywodraetha o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd derfynau y ddaear. 9 O’i flaen ef yr ymgryma trigolion yr anialwch: a’i elynion a lyfant y llwch. 10 Brenhinoedd Tarsis a’r ynysoedd a dalant anrheg: brenhinoedd Sheba a Seba a ddygant rodd. 11 Ie, yr holl frenhinoedd a ymgrymant iddo: yr holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef. 12 Canys efe a wared yr anghenog pan waeddo: y truan hefyd, a’r hwn ni byddo cynorthwywr iddo. 13 Efe a arbed y tlawd a’r rheidus, ac a achub eneidiau y rhai anghenus. 14 Efe a wared eu henaid oddi wrth dwyll a thrawster: a gwerthfawr fydd eu gwaed yn ei olwg ef. 15 Byw hefyd fydd efe, a rhoddir iddo o aur Seba: gweddïant hefyd drosto ef yn wastad: beunydd y clodforir ef. 16 Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear ym mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus; a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear. 17 Ei enw fydd yn dragywydd: ei enw a bery tra fyddo haul; ac ymfendithiant ynddo: yr holl genhedloedd a’i galwant yn wynfydedig. 18 Bendigedig fyddo yr Arglwydd Dduw, Duw Israel, yr hwn yn unig sydd yn gwneuthur rhyfeddodau. 19 Bendigedig hefyd fyddo ei enw gogoneddus ef yn dragywydd; a’r holl ddaear a lanwer o’i ogoniant. Amen, ac Amen. 20 Gorffen gweddïau Dafydd mab Jesse.
Salm Asaff.
73 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i’r rhai glân o galon. 2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. 3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. 4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. 5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. 6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. 7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. 8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. 9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. 10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. 11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? 12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. 13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. 14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. 15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. 16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; 17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt. 18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. 19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. 20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt. 21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. 22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. 23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. 24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. 25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. 26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd. 27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt. 28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
9 Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd, a’m cydwybod hefyd yn cyd‐dystiolaethu â mi yn yr Ysbryd Glân, 2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid di‐baid i’m calon. 3 Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd: 4 Y rhai sydd Israeliaid; eiddo y rhai yw’r mabwysiad, a’r gogoniant, a’r cyfamodau, a dodiad y ddeddf, a’r gwasanaeth, a’r addewidion; 5 Eiddo y rhai yw’r tadau; ac o’r rhai yr hanoedd Crist yn ôl y cnawd, yr hwn sydd uwchlaw pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd. Amen. 6 Eithr nid posibl yw myned gair Duw yn ddi‐rym: canys nid Israel yw pawb a’r sydd o Israel. 7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had. 8 Hynny ydyw, Nid plant y cnawd, y rhai hynny sydd blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn had. 9 Canys gair yr addewid yw hwn; Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mab i Sara. 10 Ac nid hyn yn unig; eithr Rebeca hefyd, wedi iddi feichiogi o un, sef o’n tad Isaac; 11 (Canys cyn geni y plant eto, na gwneuthur ohonynt dda na drwg, fel y byddai i’r arfaeth yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw;) 12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasanaetha’r ieuangaf. 13 Megis yr ysgrifennwyd, Jacob a gerais, eithr Esau a gaseais. 14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? A oes anghyfiawnder gyda Duw? Na ato Duw. 15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.