Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 68-69

I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd.

68 Cyfoded Duw, gwasgarer ei elynion: a ffoed ei gaseion o’i flaen ef. Chweli hwynt fel chwalu mwg: fel y tawdd cwyr wrth y tân, difether y rhai annuwiol o flaen Duw. Ond llawenycher y rhai cyfiawn, a gorfoleddant gerbron Duw; a byddant hyfryd o lawenydd. Cenwch i Dduw, canmolwch ei enw: dyrchefwch yr hwn sydd yn marchogaeth ar y nefoedd, a’i enw yn JAH, a gorfoleddwch ger ei fron ef. Tad yr amddifaid, a Barnwr y gweddwon, yw Duw, yn ei breswylfa sanctaidd. Duw sydd yn gosod yr unig mewn teulu: yn dwyn allan y rhai a rwymwyd mewn gefynnau; ond y rhai cyndyn a breswyliant grastir. Pan aethost, O Dduw, o flaen dy bobl, pan gerddaist trwy yr anialwch; Sela: Y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant o flaen Duw: Sinai yntau a grynodd o flaen Duw, sef Duw Israel. Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a’i gwrteithiaist wedi ei blino. 10 Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i’r tlawd. 11 Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent. 12 Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a’r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail. 13 Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a’i hadenydd ag aur melyn. 14 Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon. 15 Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan. 16 Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio; ie, preswylia yr Arglwydd ynddo byth. 17 Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr. 18 Dyrchefaist i’r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i’r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith. 19 Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela. 20 Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i’r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth. 21 Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau. 22 Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr; 23 Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw. 24 Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr. 25 Y cantorion a aethant o’r blaen, a’r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau. 26 Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel. 27 Yno y mae Benjamin fychan â’u llywydd, tywysogion Jwda â’u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali. 28 Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni. 29 Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem. 30 Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel. 31 Pendefigion a ddeuant o’r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw. 32 Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela: 33 Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol. 34 Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a’i nerth yn yr wybrennau. 35 Ofnadwy wyt, O Dduw, o’th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i’r bobl. Bendigedig fyddo Duw.

I’r Pencerdd ar Sosannim, Salm Dafydd.

69 Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a’r ffrwd a lifodd drosof. Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw. Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a’m casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a’m difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais. O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot. Na chywilyddier o’m plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na waradwydder o’m plegid i y rhai a’th geisiant di, O Dduw Israel. Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb. Euthum yn ddieithr i’m brodyr, ac fel estron gan blant fy mam. Canys sêl dy dŷ a’m hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi. 10 Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi. 11 Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt. 12 Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i’r meddwon yr oeddwn yn wawd. 13 Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth. 14 Gwared fi o’r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o’r dyfroedd dyfnion. 15 Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf. 16 Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf. 17 Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi. 18 Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion. 19 Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a’m cywilydd, a’m gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di. 20 Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb. 21 Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr. 22 Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a’u llwyddiant yn dramgwydd. 23 Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i’w llwynau grynu bob amser. 24 Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt. 25 Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll. 26 Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant. 27 Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i’th gyfiawnder di. 28 Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda’r rhai cyfiawn. 29 Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a’m dyrchafo. 30 Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl. 31 A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol. 32 Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw. 33 Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion. 34 Nefoedd a daear, y môr a’r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef. 35 Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi. 36 A hiliogaeth ei weision a’i meddiannant hi: a’r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.

Rhufeiniaid 8:1-21

Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys deddf Ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth. Canys yr hyn ni allai’r ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Fab ei hun yng nghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd: Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd. Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau’r cnawd y maent yn synio: eithr y rhai sydd yn ôl yr Ysbryd, am bethau’r Ysbryd. Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw; a syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd yw: Oblegid syniad y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: canys nid yw ddarostyngedig i ddeddf Duw; oblegid nis gall chwaith. A’r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw. Eithr chwychwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Ysbryd, od yw Ysbryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Ysbryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. 10 Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corff yn farw, oherwydd pechod; eithr yr Ysbryd yn fywyd, oherwydd cyfiawnder. 11 Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi, trwy ei Ysbryd yr hwn sydd yn trigo ynoch. 12 Am hynny, frodyr, dyledwyr ydym, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. 13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corff trwy’r Ysbryd, byw fyddwch. 14 Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. 15 Canys ni dderbyniasoch ysbryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch Ysbryd mabwysiad, trwy’r hwn yr ydym yn llefain, Abba, Dad. 16 Y mae’r Ysbryd hwn yn cyd‐dystiolaethu â’n hysbryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw: 17 Ac os plant, etifeddion hefyd; sef etifeddion i Dduw, a chyd‐etifeddion â Crist: os ydym yn cyd‐ddioddef gydag ef, fel y’n cydogonedder hefyd. 18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif, nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu i’r gogoniant a ddatguddir i ni. 19 Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. 20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd; nid o’i fodd, eithr oblegid yr hwn a’i darostyngodd: 21 Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i ryddid gogoniant plant Duw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.