Old/New Testament
I’r Pencerdd, Can neu Salm.
66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: 2 Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. 3 Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. 4 Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. 5 Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. 6 Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. 7 Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. 8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: 9 Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall. 13 Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau, 14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder. 15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela. 16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid. 17 Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod. 18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd. 19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi. 20 Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân.
67 Duw a drugarhao wrthym, ac a’n bendithio; a thywynned ei wyneb arnom: Sela: 2 Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a’th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd. 3 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 4 Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela. 5 Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi. 6 Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a’n bendithia. 7 Duw a’n bendithia; a holl derfynau y ddaear a’i hofnant ef.
7 Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw? 2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y ddeddf i’r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr. 3 Ac felly, os a’r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fydd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf; fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gŵr arall. 4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r ddeddf trwy gorff Crist; fel y byddech eiddo un arall, sef eiddo’r hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw. 5 Canys pan oeddem yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy’r ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. 6 Eithr yn awr y rhyddhawyd ni oddi wrth y ddeddf, wedi ein meirw i’r peth y’n hatelid; fel y gwasanaethem mewn newydd‐deb ysbryd, ac nid yn hender y llythyren. 7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw’r ddeddf? Na ato Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y ddeddf: canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r ddeddf, Na thrachwanta. 8 Eithr pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a weithiodd ynof fi bob trachwant. 9 Canys heb y ddeddf marw oedd pechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y ddeddf: ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau a fûm farw. 10 A’r gorchymyn, yr hwn ydoedd i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth. 11 Canys pechod, wedi cymryd achlysur trwy’r gorchymyn, a’m twyllodd i; a thrwy hwnnw a’m lladdodd. 12 Felly yn wir y mae’r ddeddf yn sanctaidd; a’r gorchymyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda. 13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy’r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn dra phechadurus. 14 Canys ni a wyddom fod y ddeddf yn ysbrydol: eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu dan bechod. 15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid yw fodlon gennyf: canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur; eithr y peth sydd gas gennyf, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur. 16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r ddeddf mai da ydyw. 17 Felly yr awron nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. 18 Canys mi a wn nad oes ynof fi (hynny yw, yn fy nghnawd i,) ddim da yn trigo: oblegid yr ewyllysio sydd barod gennyf; eithr cwblhau’r hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno. 19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllysio; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur. 20 Ac os ydwyf fi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynof fi. 21 Yr ydwyf fi gan hynny yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresennol gyda mi. 22 Canys ymhyfrydu yr wyf yng nghyfraith Duw, yn ôl y dyn oddi mewn: 23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. 24 Ys truan o ddyn wyf fi! pwy a’m gwared i oddi wrth gorff y farwolaeth hon? 25 Yr wyf fi yn diolch i Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly gan hynny, yr wyf fi fy hun â’r meddwl yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.