Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 31-32

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

31 Ynot ti, Arglwydd, yr ymddiriedais: na’m gwaradwydder yn dragywydd: gwared fi yn dy gyfiawnder. Gogwydda dy glust ataf; gwared fi ar frys: bydd i mi yn graig gadarn, yn dŷ amddiffyn i’m cadw. Canys fy nghraig a’m castell ydwyt: gan hynny er mwyn dy enw tywys fi, ac arwain fi. Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth. I’th law y gorchmynnaf fy ysbryd: gwaredaist fi, O Arglwydd Dduw y gwirionedd. Caseais y rhai sydd yn dal ar ofer wagedd: minnau a obeithiaf yn yr Arglwydd. Ymlawenhaf ac ymhyfrydaf yn dy drugaredd: canys gwelaist fy adfyd; adnabuost fy enaid mewn cyfyngderau; Ac ni warchaeaist fi yn llaw y gelyn; ond gosodaist fy nhraed mewn ehangder. Trugarha wrthyf, Arglwydd; canys cyfyng yw arnaf: dadwinodd fy llygad gan ofid, ie, fy enaid a’m bol. 10 Canys fy mywyd a ballodd gan ofid, a’m blynyddoedd gan ochain: fy nerth a ballodd oherwydd fy anwiredd, a’m hesgyrn a bydrasant. 11 Yn warthrudd yr ydwyf ymysg fy holl elynion, a hynny yn ddirfawr ymysg fy nghymdogion; ac yn ddychryn i’r rhai a’m hadwaenant: y rhai a’m gwelent allan, a gilient oddi wrthyf. 12 Anghofiwyd fi fel un marw allan o feddwl: yr ydwyf fel llestr methedig. 13 Canys clywais ogan llaweroedd; dychryn oedd o bob parth: pan gydymgyngorasant yn fy erbyn, y bwriadasant fy nieneidio. 14 Ond mi a obeithiais ynot ti, Arglwydd: dywedais, Fy Nuw ydwyt. 15 Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ac oddi wrth fy erlidwyr. 16 Llewyrcha dy wyneb ar dy was: achub fi er mwyn dy drugaredd. 17 Arglwydd, na waradwydder fi; canys gelwais arnat: gwaradwydder yr annuwiolion, torrer hwynt i’r bedd. 18 Gosteger y gwefusau celwyddog, y rhai a ddywedant yn galed, trwy falchder a diystyrwch, yn erbyn y cyfiawn. 19 Mor fawr yw dy ddaioni a roddaist i gadw i’r sawl a’th ofnant; ac a wnaethost i’r rhai a ymddiriedant ynot, gerbron meibion dynion! 20 Cuddi hwynt yn nirgelfa dy wyneb rhag balchder dynion: cuddi hwynt mewn pabell rhag cynnen tafodau. 21 Bendigedig fyddo yr Arglwydd: canys dangosodd yn rhyfedd ei garedigrwydd i mi mewn dinas gadarn. 22 Canys mi a ddywedais yn fy ffrwst, Fe’m bwriwyd allan o’th olwg: er hynny ti a wrandewaist lais fy ngweddïau pan lefais arnat. 23 Cerwch yr Arglwydd, ei holl saint ef: yr Arglwydd a geidw y ffyddloniaid, ac a dâl yn ehelaeth i’r neb a wna falchder. 24 Ymwrolwch, ac efe a gryfha eich calon, chwychwi oll y rhai ydych yn gobeithio yn yr Arglwydd.

Salm Dafydd, er athrawiaeth.

32 Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd, ac ni byddo dichell yn ei ysbryd. Tra y tewais, heneiddiodd fy esgyrn, gan fy rhuad ar hyd y dydd. Canys trymhaodd dy law arnaf ddydd a nos: fy irder a drowyd yn sychder haf. Sela. Addefais fy mhechod wrthyt, a’m hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Sela. Am hyn y gweddïa pob duwiol arnat ti yn yr amser y’th geffir: yn ddiau yn llifeiriant dyfroedd mawrion, ni chânt nesáu ato ef. Ti ydwyt loches i mi; cedwi fi rhag ing: amgylchyni fi â chaniadau ymwared. Sela. Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych: â’m llygad arnat y’th gynghoraf. Na fyddwch fel march, neu ful, heb ddeall: yr hwn y mae rhaid atal ei ên â genfa, ac â ffrwyn, rhag ei ddynesáu atat. 10 Gofidiau lawer fydd i’r annuwiol: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, trugaredd a’i cylchyna ef. 11 Y rhai cyfiawn, byddwch lawen a hyfryd yn yr Arglwydd: a’r rhai uniawn o galon oll, cenwch yn llafar.

Actau 23:16-35

16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i’r castell, ac a fynegodd i Paul. 17 A Phaul a alwodd un o’r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i’w fynegi iddo. 18 Ac efe a’i cymerth ef, ac a’i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a’m galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i’w ddywedyd wrthyt. 19 A’r pen‐capten a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o’r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi? 20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i’r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. 21 Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti. 22 Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef. 23 Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o’r nos; 24 A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i’w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw. 25 Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma: 26 Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch. 27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â’i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd. 28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a’i dygais ef i waered i’w cyngor hwynt: 29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o’u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau. 30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i’r gŵr, myfi a’i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach. 31 Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a’i dygasant o hyd nos i Antipatris. 32 A thrannoeth, gan adael i’r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i’r castell: 33 Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi’r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef. 34 Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd; 35 Mi a’th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.