Old/New Testament
Michtam Dafydd.
16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. 2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: 3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. 4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. 5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. 6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. 7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. 8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. 9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.
Gweddi Dafydd.
17 Clyw, Arglwydd, gyfiawnder, ystyria fy lefain, gwrando fy ngweddi o wefusau didwyll. 2 Deued fy marn oddi ger dy fron: edryched dy lygaid ar uniondeb. 3 Profaist fy nghalon; gofwyaist fi y nos; chwiliaist fi, ac ni chei ddim: bwriedais na throseddai fy ngenau. 4 Tuag at am weithredoedd dynion, wrth eiriau dy wefusau yr ymgedwais rhag llwybrau yr ysbeilydd. 5 Cynnal fy ngherddediad yn dy lwybrau, fel na lithro fy nhraed. 6 Mi a elwais arnat; canys gwrandewi arnaf fi, O Dduw: gostwng dy glust ataf, ac erglyw fy ymadrodd. 7 Dangos dy ryfedd drugareddau,O Achubydd y rhai a ymddiriedant ynot, rhag y sawl a ymgyfodant yn erbyn dy ddeheulaw. 8 Cadw fi fel cannwyll llygad: cudd fi dan gysgod dy adenydd, 9 Rhag yr annuwiolion, y rhai a’m gorthrymant, rhag fy ngelynion marwol, y rhai a’m hamgylchant. 10 Caesant gan eu braster: â’u genau y llefarant mewn balchder. 11 Ein cyniweirfa ni a glychynasant hwy yr awron: gosodasant eu llygaid i dynnu i lawr i’r ddaear. 12 Eu dull sydd fel llew a chwenychai ysglyfaethu, ac megis llew ieuanc yn aros mewn leoedd dirgel. 13 cyfod, Arglwydd, achub ei flaen ef, cwympa ef: gwared fy enaid rhag yr annuwio, yr hwn yw dy gleddyf di; 14 Rhag dynion, y rhai yw dy law, O Arglwydd, rhag dynion y byd, y rhai y mae eu rhan yn y bywyd yma, a’r rhai y llenwaist eu boliau â’th guddiedig drysor: llawn ydynt o feibion, a gadawant eu gweddill i’w rhai bychain. 15 Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder: digonir fi, pan ddihunwyf, â’th ddelw di.
20 Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Facedonia. 2 Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 3 Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Troffimus. 5 Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 6 A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 7 Ac ar y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 9 A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 10 A Phaul a aeth i waered, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 11 Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 12 A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
13 Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14 A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 16 Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.