Old/New Testament
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
13 Pa hyd, Arglwydd, y’m hanghofi? ai yn dragywydd? pa hyd y cuddi dy wyneb rhagof? 2 Pa hyd y cymeraf gynghorion yn fy enaid, gan fod blinder beunydd yn fy nghalon? pa hyd y dyrchefir fy ngelyn arnaf? 3 Edrych, a chlyw fi, O Arglwydd fy Nuw: goleua fy llygaid, rhag i mi huno yn yr angau: 4 Rhag dywedyd o’m gelyn, Gorchfygais ef; ac i’m gwrthwynebwyr lawenychu, os gogwyddaf. 5 Minnau hefyd a ymddiriedais yn dy drugaredd di; fy nghalon a ymlawenycha yn dy iachawdwriaeth: canaf i’r Arglwydd, am iddo synio arnaf.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
14 Yr ynfyd a ddywedodd yn ei galon, Nid oes un Duw. Ymlygrasant; ffieiddwaith a wnaethant: nid oes a wnêl ddaioni. 2 Yr Arglwydd a edrychodd i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i weled a oedd neb deallgar, yn ymgeisio â Duw. 3 Ciliodd pawb; cydymddifwynasant: nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un. 4 Oni ŵyr holl weithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl fel y bwytaent fara: ni alwasant ar yr Arglwydd. 5 Yno y dychrynasant gan ofn; canys y mae Duw yng nghenhedlaeth y cyfiawn. 6 Cyngor y tlawd a waradwyddasoch chwi; am fod yr Arglwydd yn obaith iddo. 7 Pwy a ddyry iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ddychwelo yr Arglwydd gaethiwed ei bobl, yr ymhyfryda Jacob, ac y llawenha Israel.
Salm Dafydd.
15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? 2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: 3 Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. 4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. 5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.
21 A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr ysbryd, gwedi iddo dramwy trwy Facedonia ac Achaia, fyned i Jerwsalem; gan ddywedyd, Gwedi imi fod yno, rhaid imi weled Rhufain hefyd. 22 Ac wedi anfon i Facedonia ddau o’r rhai oedd yn gweini iddo, sef Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
23 A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno. 24 Canys rhyw un a’i enw Demetrius, gof arian, yn gwneuthur temlau arian i Diana, oedd yn peri elw nid bychan i’r crefftwyr; 25 Y rhai a alwodd efe, ynghyd â gweithwyr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha wŷr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni: 26 Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn unig yn Effesus, eithr agos dros Asia oll, ddarfod i’r Paul yma berswadio a throi llawer o bobl ymaith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wneir â dwylo. 27 Ac nid yw yn unig yn enbyd i ni, ddyfod y rhan hon i ddirmyg; eithr hefyd bod cyfrif teml y dduwies fawr Diana yn ddiddim, a bod hefyd ddistrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll a’r byd yn ei haddoli. 28 A phan glywsant, hwy a lanwyd o ddigofaint; ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 29 A llanwyd yr holl ddinas o gythrwfl: a hwy a ruthrasant yn unfryd i’r orsedd, gwedi cipio Gaius ac Aristarchus o Facedonia, cydymdeithion Paul. 30 A phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y disgyblion iddo. 31 Rhai hefyd o benaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrasant ato, i ddeisyf arno, nad ymroddai efe i fyned i’r orsedd. 32 A rhai a lefasant un peth, ac eraill beth arall: canys y gynulleidfa oedd yn gymysg; a’r rhan fwyaf ni wyddent oherwydd pa beth y daethent ynghyd. 33 A hwy a dynasant Alexander allan o’r dyrfa, a’r Iddewon yn ei yrru ef ymlaen. Ac Alexander a amneidiodd â’i law am osteg, ac a fynasai ei amddiffyn ei hun wrth y bobl. 34 Eithr pan wybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag un llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana’r Effesiaid. 35 Ac wedi i ysgolhaig y ddinas lonyddu’r bobl, efe a ddywedodd, Ha wŷr Effesiaid, pa ddyn sydd nis gŵyr fod dinas yr Effesiaid yn addoli’r dduwies fawr Diana, a’r ddelw a ddisgynnodd oddi wrth Jwpiter? 36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i’w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byrbwyll. 37 Canys dygasoch yma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt nac yn ysbeilwyr temlau, nac yn cablu eich duwies chwi. 38 Od oes gan hynny gan Demetrius a’r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i’w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd. 39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny. 40 Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o’r ymgyrch hwn. 41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.