Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 10-12

10 Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion. Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd. 10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef. 11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth. 12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol. 13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni. 14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad. 15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim. 16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. 17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; 18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

11 Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i’ch mynydd fel aderyn? Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon. Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn? Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster. Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt. Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

I’r Pencardd ar Seminith, Salm Dafydd.

12 Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion. Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant. Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a’r tafod a person ddywedo fawrhydi: Y rhai a ddywedant, Â’n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni? Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo. Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith. Ti, Arglwydd, a’u cedwi hwynt: cedwi hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd. Yr annuwiolion a rodiant o amgylch, pan ddyrchafer y gwaelaf o feibion dynion.

Actau 19:1-20

19 Adigwyddodd, tra fu Apolos yng Nghorinth, wedi i Paul dramwy trwy’r parthau uchaf, ddyfod ohono ef i Effesus: ac wedi iddo gael rhyw ddisgyblion, Efe a ddywedodd wrthynt, A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymaint â chlywed a oes Ysbryd Glân. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? Hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan. A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yng Nghrist Iesu. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant. A’r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg. Ac efe a aeth i mewn i’r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori’r pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus. 10 A hyn a fu dros ysbaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Iesu. 11 A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw trwy ddwylo Paul: 12 Hyd oni ddygid at y cleifion, oddi wrth ei gorff ef, napgynau neu foledau; a’r clefydau a ymadawai â hwynt, a’r ysbrydion drwg a aent allan ohonynt.

13 Yna rhai o’r Iddewon crwydraidd, y rhai oedd gonsurwyr, a gymerasant arnynt enwi uwchben y rhai oedd ag ysbrydion drwg ynddynt, enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr Iesu, yr hwn y mae Paul yn ei bregethu. 14 Ac yr oedd rhyw saith o feibion i Scefa, Iddew ac archoffeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn. 15 A’r ysbryd drwg a atebodd ac a ddywedodd, Yr Iesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen; eithr pwy ydych chwi? 16 A’r dyn yr hwn yr oedd yr ysbryd drwg ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a’u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn; hyd oni ffoesant hwy allan o’r tŷ hwnnw, yn noethion ac yn archolledig. 17 A hyn a fu hysbys gan yr holl Iddewon a’r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn preswylio yn Effesus; ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Iesu a fawrygwyd. 18 A llawer o’r rhai a gredasent a ddaethant, ac a gyffesasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd. 19 Llawer hefyd o’r rhai a fuasai yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau ynghyd, ac a’u llosgasant yng ngŵydd pawb: a hwy a fwriasant eu gwerth hwy, ac a’i cawsant yn ddengmil a deugain o ddarnau arian. 20 Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.