Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 41-42

41 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw. 12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef. 13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

42 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt. Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn. Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau. Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di. Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.

Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job. Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job. Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt. A’r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job. 10 Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg. 11 Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur. 12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod. 13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched. 14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc. 15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr. 16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth. 17 Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.

Actau 16:22-40

22 A’r dyrfa a safodd i fyny ynghyd yn eu herbyn hwy; a’r swyddogion, gan rwygo eu dillad, a orchmynasant eu curo hwy â gwiail. 23 Ac wedi rhoddi gwialenodiau lawer iddynt, hwy a’u taflasant i garchar, gan orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel; 24 Yr hwn, wedi derbyn y cyfryw orchymyn, a’u bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion.

25 Ac ar hanner nos Paul a Silas oedd yn gweddïo, ac yn canu mawl i Dduw: a’r carcharorion a’u clywsant hwy. 26 Ac yn ddisymwth y bu daeargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau’r carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion. 27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau’r carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun; gan dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. 28 Eithr Paul a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed; canys yr ydym ni yma oll. 29 Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas, 30 Ac a’u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistriaid, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig? 31 A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a’th deulu. 32 A hwy a draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef. 33 Ac efe a’u cymerth hwy yr awr honno o’r nos, ac a olchodd eu briwiau: ac efe a fedyddiwyd, a’r eiddo oll, yn y man. 34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i’w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a’i holl deulu. 35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, Gollwng ymaith y dynion hynny. 36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y swyddogion a anfonasant i’ch gollwng chwi ymaith: yn awr gan hynny cerddwch ymaith; ewch mewn heddwch. 37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, Wedi iddynt ein curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau’n Rhufeinwyr, hwy a’n bwriasant ni i garchar; ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly; ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan. 38 A’r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i’r swyddogion: a hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt. 39 A hwy a ddaethant ac a atolygasant arnynt, ac a’u dygasant allan, ac a ddeisyfasant arnynt fyned allan o’r ddinas. 40 Ac wedi myned allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia: ac wedi gweled y brodyr, hwy a’u cysurasant, ac a ymadawsant.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.