Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 38-40

38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, 10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, 11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. 12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, 13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? 14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. 15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. 16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? 17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? 18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. 19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, 20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? 21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? 22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, 23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? 24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? 25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, 26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? 27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? 28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? 29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? 30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. 31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? 32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? 33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? 34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? 39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, 40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? 41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.

39 A wyddost ti yr amser i eifr gwylltion y creigiau lydnu? a fedri di wylied yr amser y bwrw yr ewigod loi? A gyfrifi di y misoedd a gyflawnant hwy? ac a wyddost ti yr amser y llydnant? Ymgrymant, bwriant eu llydnod, ac ymadawant â’u gofid. Eu llydnod a gryfha, cynyddant yn y maes: ânt allan, ac ni ddychwelant atynt hwy. Pwy a ollyngodd yr asyn gwyllt yn rhydd? neu pwy a ddatododd rwymau yr asyn gwyllt? Yr hwn y gosodais yr anialwch yn dŷ iddo, a’r diffeithwch yn drigfa iddo. Efe a chwardd am ben lliaws tref: ni wrendy ar lais y geilwad. Cilfachau y mynyddoedd yw ei borfa ef, ac efe a chwilia am bob glaswelltyn. A gytuna yr unicorn i’th wasanaethu di? a erys efe wrth dy bresebau di? 10 A rwymi di unicorn â’i did mewn rhych? a lyfna efe y dolydd ar dy ôl di? 11 A ymddiriedi wrtho, am fod ei gryfder yn fawr? a adewi di dy lafur iddo? 12 A goeli di ef, y dwg efe dy had di drachefn, ac y casgl efe ef i’th lawr dyrnu di? 13 A roddaist ti adenydd hyfryd i’r peunod? neu adenydd a phlu i’r estrys? 14 Yr hon a ad ei hwyau yn y ddaear, ac a’u cynhesa yn y llwch; 15 Ac y mae hi yn gollwng dros gof y gallai droed eu dryllio hwynt, neu anifail y maes eu sathru. 16 Caled yw hi wrth ei chywion, fel pe na byddent eiddi hi: ei gwaith hi sydd ofer, heb ofn; 17 Oblegid na roddes Duw iddi ddoethineb, ac na chyfrannodd iddi ddeall. 18 Yr amser yr ymgodo hi yn uchel, hi a ddiystyra y march a’i farchog. 19 A roddaist ti gryfder i farch? neu a ddysgaist iddo weryru? 20 A ddychryni di ef fel ceiliog rhedyn? dychryn ydyw ardderchowgrwydd ei ffroen ef. 21 Ei draed ef a gloddiant yn y dyffryn, ac efe a lawenycha yn ei gryfder: efe a â allan i gyfarfod arfau. 22 Efe a ddiystyra arswyd, ac ni ddychryna efe; ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddyf. 23 Y cawell saethau a drystia yn ei erbyn, y ddisglair waywffon a’r darian. 24 Efe a lwnc y ddaear gan greulondeb a chynddaredd: ac ni chred mai llais yr utgorn yw. 25 Efe a ddywed ymhlith yr utgyrn, Ha, ha; ac a arogla o bell ryfel, twrf tywysogion, a’r bloeddio. 26 Ai trwy dy ddoethineb di yr eheda y gwalch, ac y lleda efe ei adenydd tua’r deau? 27 Ai wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr, ac y gwna efe ei nyth yn uchel? 28 Y trig efe ac yr erys mewn craig; ac ar ysgithredd y graig, a’r lle cadarn? 29 Oddi yno y chwilia am fwyd; ei lygaid a ganfyddant o bell. 30 Ei gywion hefyd a sugnant waed: a lle y byddo celanedd, yno y bydd efe.

40 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.

15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Actau 16:1-21

16 Yna y daeth efe i Derbe ac i Lystra. Ac wele, yr oedd yno ryw ddisgybl, a’i enw Timotheus, mab i ryw wraig yr hon oedd Iddewes, ac yn credu; a’i dad oedd Roegwr: Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium. Paul a fynnai i hwn fyned allan gydag ef; ac efe a’i cymerth ac a’i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb mai Groegwr oedd ei dad ef. Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy’r dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw’r gorchmynion a ordeiniesid gan yr apostolion a’r henuriaid y rhai oedd yn Jerwsalem. Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd. Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia, a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Ysbryd Glân bregethu’r gair yn Asia; Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia: ac ni oddefodd Ysbryd yr Iesu iddynt. Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i waered i Droas. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni. 10 A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o’r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy. 11 Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis; 12 Ac oddi yno i Philipi, yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai. 13 Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.

14 A rhyw wraig a’i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. 15 Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i’n ffyddlon i’r Arglwydd, deuwch i mewn i’m tŷ, ac arhoswch yno. A hi a’n cymhellodd ni.

16 A digwyddodd, a ni’n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i’w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth. 17 Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth. 18 A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, a drodd, ac a ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr ydwyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan ohoni. Ac efe a aeth allan yr awr honno.

19 A phan welodd ei meistriaid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a’u llusgasant hwy i’r farchnadfa, at y llywodraethwyr; 20 Ac a’u dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, Y mae’r dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni, 21 Ac yn dysgu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn na’u gwneuthur, y rhai ydym Rufeinwyr.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.