Old/New Testament
34 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, 2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch. 3 Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd. 4 Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda. 5 Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn. 6 A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd. 7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr? 8 Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol. 9 Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw. 10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. 11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun. 12 Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn. 13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd? 14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef; 15 Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd. 16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion. 17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol? 18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion? 19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll. 20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw. 21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef. 22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio. 23 Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw. 24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt. 25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir. 26 Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg: 27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef: 28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol. 29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig: 30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl. 31 Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd; 32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy. 33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost. 34 Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, clywed fi. 35 Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb. 36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir. 37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.
35 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, 2 A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw? 3 Canys dywedaist, Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod? 4 Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi. 5 Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi. 6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef? 7 Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di? 8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth. 9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn. 10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos? 11 Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd. 12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe. 13 Diau na wrendy Duw oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno. 14 Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho. 15 Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi: 16 Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.
15 Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig. 2 A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a’r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma. 3 Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i’r brodyr oll. 4 Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt. 5 Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.
6 A’r apostolion a’r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma. 7 Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. 8 A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: 9 Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd. 10 Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau’r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn? 11 Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.
12 A’r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.
13 Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi. 14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o’r Cenhedloedd bobl i’w enw. 15 Ac â hyn y cytuna geiriau’r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig, 16 Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a’i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a’i cyfodaf eilchwyl: 17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio’r Arglwydd, ac i’r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn. 18 Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed. 19 Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o’r Cenhedloedd a droesant at Dduw: 20 Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed. 21 Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a’i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.